MAE COETIROEDD YN GWBL ANHYGOEL
Ble arall allwch chi gerdded drwy dirwedd o blanhigion sy’n pwyso tunelli ac yn fwy na thai?
Pam mae coetiroedd yn bwysig?
Mae coetiroedd yn tynnu CO2 o’r atmosffer gan helpu i atal cynhesu byd-eang! Maen nhw hefyd yn darparu coed a phren i ni, sy’n adnoddau adnewyddadwy gyda llawer o ddefnyddiau. Yn well na dim, maen nhw’n wych i fywyd gwyllt!
Mathau o goetiroedd:
Coetir hynafol – dyma goetir sydd wedi bod yn bresennol ar y safle ers o leiaf 1600! Roedd rhai planhigion yn araf iawn yn ymsefydlu yma (mae hynny’n golygu setlo mewn ardal). Os ydych yn eu gweld mewn coetir, mae’n gliw da bod y coetir yn hen iawn! Mae’r planhigion hyn yn cynnwys blodau’r gwynt a llysiau Steffan.
Coetir llydanddail – dyma goetir sydd â choed ynddo sydd heb nodwyddau. Yn hytrach mae gan y coed ddail sy’n llydan ac o wahanol siâp. Bydd y rhan fwyaf o’r coed yma’n gollddail sy’n golygu y byddan nhw’n colli eu dail yn yr hydref.
Coetir gwlyb – coetir gyda choed fel helyg, bedw a gwerni yn aml yw’r coetir yma, coed sy’n ffynnu mewn priddoedd wedi’u draenio’n wael neu sy’n cael llifogydd tymhorol.
Fforest Galedonaidd – dyma goetir sy’n cynnwys coed pinwydd yr Alban yn bennaf. Efallai y bydd coed eraill yn tyfu yma hefyd, fel bedw, criafol a helyg. Dim ond yn yr Alban welwch chi Fforest Galedonaidd.
Oeddech chi’n gwybod?
8,000 o flynyddoedd yn ôl, byddai llawer iawn o Brydain yn fforest. Byddai coedwig wyllt fawr yn gartref i fleiddiaid, eirth, afancod a baeddod gwyllt!
Bywyd gwyllt i gadw llygad amdano
Adar
Mewn coetiroedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych o’ch cwmpas yn ofalus. Mae llawer o adar yn cuddio reit o’ch blaen chi yn aml iawn!
Mân-drychfilod
Ydych chi wedi mynd â chwyddwydr i goetir? Gallech chi ddod o hyd i lawer o rywogaethau o falwod, pryfed lludw, chwilod a glöynnod byw.