
Tom Marshall
Dod yn aelod
Ymunwch!
Mae rhai Ymddiriedolaethau Natur yn cynnig aelodaeth Gwyllt! yn annibynnol tra bod eraill yn ei gynnwys yn eu cynnig yn ei aelodaeth teulu.

Trwy ymuno â'n cymuned o aelodau teulu'r Ymddiriedolaeth Natur, byddwch yn derbyn pecyn cychwynnol gwych Gwyllt! i blant, gan gynnwys:
- Llawlyfr 60 tudalen, yn llawn dop o bethau i'w gwneud yn eich gardd eich hun neu mewn lleoedd gwyllt lleol
- Posteri bywyd gwyllt anhygoel
- Cylchgrawn yn llawn gweithgareddau, cwisiau a ffeithiau hynod ddiddorol
- Sticeri bywyd gwyllt a bathodyn i ddangos eich bod wedi ymuno â'r clwb!
- Gall aelodau teulu Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ddewis derbyn eu cylchgronau yn Gymraeg neu Saesneg - Gwyllt! neu Wildlife Watch!

Penny Dixie
Dod yn aelod heddiw!
Trwy gydol y flwyddyn, bydd eich teulu’n derbyn copïau rheolaidd o gylchgrawn aelodaeth eich Ymddiriedolaeth Natur lleol, y cylchgrawn Gwyllt! i blant a dyddiadur digwyddiadau lleol sy’n llawn pethau sy’n digwydd yn agos atoch chi!