Neidio i mewn
Gwyllt! yw cangen iau’r Ymddiriedolaethau Natur a’r prif glwb gweithredu amgylcheddol ar gyfer plant yn y DU. Ei nod yw annog plant i ymwneud â’r amgylchedd a’r materion sy’n effeithio arno.
Os ydych chi a’ch teulu yn poeni am fyd natur a’r amgylchedd ac eisiau profi bywyd gwyllt lleol, neu os ydych chi’n chwilio am weithgareddau wedi’u hysbrydoli gan fyd natur, rydych chi wedi dod i’r lle iawn. Mae cannoedd o ddigwyddiadau a grwpiau lleol y Gwyllt! y gallwch chi a’ch plant gymryd rhan ynddyn nhw.
Ein hegwyddorion
- Gwella dealltwriaeth o’n hamgylchedd cyfan
- Meithrin ymwybyddiaeth a theimlad tuag at y byd rydyn ni’n byw ynddo
- Annog agwedd ofalgar tuag at fywyd gwyllt a chymryd rhan mewn cadwraeth
- Creu ffyrdd ffeithiol, anffurfiol a hwyliog o ymchwilio i’n hamgylchedd
- Sicrhau bod pryderon amgylcheddol, syniadau a safbwyntiau pobl ifanc yn cael eu cydnabod a’u datblygu a bod cyfleoedd yn cael eu creu i weithredu yn eu cylch.
Cylchgrawn Gwyllt!
Mae aelodau Gwyllt! yn derbyn llond gwlad o nwyddau bywyd gwyllt cyffrous! Byddwch yn cael pecyn cychwynnol a phedwar rhifyn o gylchgrawn Gwyllt! bob blwyddyn. Mae hwn yn llawn lluniau, posau a chystadlaethau anhygoel a hefyd fe gewch chi boster bywyd gwyllt gwych am ddim ym mhob rhifyn. Mae gennym ni e-gylchlythyr misol hefyd yn llawn syniadau gwyllt a chyngor am ddod o hyd i fyd natur!