Beth yw lindysyn?
Gwyfyn neu löyn byw ifanc yw lindysyn. Dyma ail ran eu cylch bywyd pedwar cam (ŵy, larfa, chwiler, oedolyn). Mae gan lindys gyrff hir, tebyg i bryfed genwair gyda chwe choes real. Gallant hefyd fod â rhai coesau ffug, byrdew (a elwir yn dros-goesau), sy'n eu helpu i symud a glynu wrth bethau.
Gall lindys fod yn dew a blewog, yn lliwiau llachar neu hyd yn oed guddliw i edrych fel brigyn neu risgl. Gall rhai o'r lindys blewog wneud i chi gosi, felly mae'n well peidio â chyffwrdd â nhw. Dyma rai o'r lindys cyffredin y gallech eu gweld!
Gwlith yfwr
Mae'r lindysyn blewog yma wedi'i orchuddio â blew brown a brychau euraidd, gyda llinell o flew gwyn ar hyd yr ochr. Gall dyfu i 7cm o hyd ac mae'n hoff o lefydd gwlyb, glaswelltog. Gellir gweld lindys y gwlith yfwr rhwng misoedd Awst a Mehefin.
Gwyfyn y cadno
Lindysyn blewog arall, gyda blew hir tywyll ar yr ochrau a blew byr oren ar ei ben. Mae’r lindys iau yn dywyll gyda bandiau oren. Maen nhw’n tyfu i 7cm o hyd ac fe'u gwelir yn aml ar rostir ac ar yr arfordir. Gellir eu gweld rhwng misoedd Mehefin ac Ebrill.
Teigr yr ardd
Mae'r lindysyn yma mor flewog fel bod ganddo'r llysenw arth wlanog! Mae'n ddu a sinsir gyda blew gwyn hirach ac mae'n tyfu i 6 cm o hyd. Mae'n byw mewn parciau a gerddi, yn ogystal â llawer o gynefinoedd eraill. Gellir ei weld rhwng misoedd Awst a Mehefin.
Gwalch-wyfyn helyglys
Mae'r lindysyn enfawr yma’n edrych yn eithaf tebyg i drwnc eliffant! Mae ganddo smotiau llygaid ger blaen y corff a chorn bychan yn y cefn, fel cynffon. Maent wrth eu bodd yn gwledda ar flodau helyglys a ffiwsia ac maent i'w gweld yn aml mewn gerddi. Maent yn tyfu i 8.5cm o hyd a gellir eu gweld rhwng misoedd Mehefin a Medi.
Teigr y benfelen
Yn aml gwelir y lindys streipiog du a melyn llachar yma’n gwledda ar blanhigion creulys. Weithiau bydd y lindys yn bwyta ei gilydd hyd yn oed! Mae'r lliwiau llachar yn rhybudd i ysglyfaethwyr eu bod yn wenwynig, ond gall y gog eu bwyta yr un fath. Gallwch eu gweld rhwng misoedd Gorffennaf a Medi.
Cathwyfyn
Dyma un o'n lindys mwyaf ffynci. Mae'n fawr, yn dew ac yn wyrdd gyda dwy gynffon fach. Mae gan y pen gylch pinc o'i gwmpas gyda dau smotyn llygad du mawr, sy'n gwneud iddo edrych fel wyneb anferth. Gellir eu canfod yn bwyta dail helyg mewn parciau, gerddi a gwlybdiroedd. Gallwch eu gweld rhwng misoedd Mehefin a Medi.