Os oes gen ti anifeiliaid anwes, efallai dy fod wedi sylwi ar dy ffrind pedair coes yn tisian, ond ydyn nhw’n sâl gyda’r un ffliw neu annwyd â ti?
Ydi anifeiliaid yn dal annwyd?
Er nad ydi eu firws yn lledu i bobl yn aml iawn, mae llawer o wahanol anifeiliaid yn dioddef o’u fersiynau eu hunain o ffliw. Mae hyn yn cynnwys adar, ffuredau, ceffylau a moch, a hefyd mamaliaid y môr fel morloi a dolffiniaid.
Yn union fel ni, mae cathod yn gallu dal annwyd (sy’n cael ei adnabod fel clefyd anadlol uchaf cathaidd) ond mae ffliw cŵn yn llawer llai cyffredin. Os ydi dy gi di’n tisian, mae’n siŵr mai llwch sydd wedi mynd i fyny ei drwyn!
Mae cŵn yn tisian yn aml pan maen nhw wedi cyffroi. Os wyt ti ar fin mynd â dy gi am dro, neu os oes gen ti rywbeth blasus iddo ei fwyta, a’i fod yn dechrau tisian, mae’n ceisio dweud wrthyt ti pa mor hapus ydi o!
Sut mae anifeiliaid yn mynd yn sâl?
Mae anifeiliaid yn mynd yn sâl yn yr un ffordd â ni. Rydyn ni’n cael ffliw yn y gaeaf wrth i ni i gyd ddod at ein gilydd a swatio dan do i gadw’n gynnes. Mae hynny’n golygu ei bod yn hawdd iawn i’r firws ledu a heintio pobl newydd. Mae’r un peth yn digwydd yn y gwyllt, wrth i firysau gael eu pasio rhwng anifeiliaid pan maen nhw’n rhyngweithio ac yn rhannu’r un gofod.
Beth mae anifeiliaid yn ei wneud i wella?
Mae cangen newydd o ymchwil gwyddonol o’r enw “Swffarmacognosi” (trïa ddweud y gair yma dan annwyd!) Yn edrych ar sut mae anifeiliaid yn y gwyllt yn mynd ati’n fwriadol i ddefnyddio gwreiddiau, dail, mwynau a hadau i helpu i wella ar ôl bod yn sâl. Os wyt ti wedi gweld ci yn bwyta glaswellt erioed, am fod ganddo stumog sâl mae hynny mae’n debyg, neu bydd yn trïo taflu problem i fyny! Mae llawer o anifeiliaid eraill yn bwyta clai i helpu gyda threuliad ac i ladd bacteria.
Pan mae pryf ffrwythau yn gweld gwenynen barasitig, mae’n dodwy ei wyau mewn llefydd gyda llawer o ffrwythau’n pydru. Mae’r ffrwyth sy’n pydru’n cynhyrchu alcohol, ac mae’r pryfed ifanc (larfa) yn ei sugno drwy fwyta’r ffyngau a’r bacteria sy’n tyfu arno. Os bydd gwenyn meirch yn ceisio dodwy wyau yn larfa’r pryf, mae’r wyau’n cael eu gwenwyno gan yr holl alcohol a’r larfa’n cael eu hachub.
Mae pryfed yn cael eu gweld fel cludwyr clefydau fel malaria a chlefyd Lyme yn aml, ond mae ganddyn nhw lawer o facteria, ffyngau, firysau a pharasitoidau eu hunain.
Oes unrhyw anifeiliaid sydd ddim yn dal annwyd?
Dydi pob rhywogaeth o anifail ddim yn gallu dal y ffliw, ond mae pob anifail ar y blaned yn gallu mynd yn sâl oherwydd pob math o facteria, firws, parasit a ffwng cas. Mae planhigion yn gallu dal salwch amrywiol a chlefydau marwol hyd yn oed!