Edrychwch ar y 5 chwilod rhyfeddaf y gallech ddod ar eu traws yn y DU
1 - Chwilen olew du
Mae’n fawr, mae’n hardd ac mae ganddi arferion rhyfedd iawn. Mae larfa’r chwilen olew ddu’n defnyddio eu traed fel bachyn i gael reid am ddim ar gefn gwenynen ddiniwed. Maen nhw’n neidio i ffwrdd yn nyth y wenynen ac wedyn yn bwyta ei hwyau cyn troi’n chwiler a dod allan fel oedolyn y gwanwyn wedyn!
2 - Buwch goch gota saith smotyn
Mae’r fuwch goch gota saith smotyn yn dechrau ei bywyd fel rhywbeth sy’n edrych yn estron iawn. Mae’r babis yn edrych fel pryfed lludw esgyrnog wedi’u croesi gyda lindys, gyda smotiau oren llachar. A phaid â gadael i’r wyneb diniwed dy dwyllo di – mae’r fuwch goch gota saith smotyn yn llowcio tua 5,500 o affidau yn ystod ei bywyd!
3 - Chwilen gladdu
Mae chwilod claddu’n cael eu hadnabod fel chwilod y pridd hefyd. Mae’r gwrywod a’r benywod yn cyfarfod ar gorff aderyn neu famal bach marw. Wedyn maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd i symud a chladdu’r corff, sy’n dod yn fwyd i’w rhai bach. Sôn am gryf!
4 - Wilen grwbanog werdd
Pa mor bell fyddet ti’n mynd i guddio oddi wrth ysglyfaethwr? Mae chwilod crwbanog gwyrdd ifanc yn creu côt allan o’u hen groen a’u tail. Neis! Os bydd yr oedolion yn teimlo dan fygythiad, maen nhw’n cau eu cragen i lawr yn galed o’u hamgylch er mwyn gafael yn y ddeilen maen nhw’n sefyll arni.
5 - Chwilen Gorniog
Mae’r cyrn yma’n drawiadol iawn! Mae chwilod corniog gwryw yn eu defnyddio i ymladd gyda’u gelynion ac i ddenu benywod lwcus. Mae gan chwilod corniog gylch bywyd anhygoel: maen nhw’n byw fel larfa (babis) am gyn hired â chwe blynedd! Dim ond am ychydig fisoedd mae chwilod corniog sy’n oedolion yn byw.