Natur Ryfedd
Ble bynnag wyt ti’n byw, mae cymaint o greaduriaid rhyfedd a rhyfeddol i’w darganfod. Tybed be fedri di ei ddarganfod gyda 30 Diwrnod Gwyllt – gwneud un peth gwyllt bob dydd yn ystod mis Mehefin!

© Ian Rose
Drudwen
Wyt ti wedi clywed synau rhyfedd tu allan i dy ffenest di? Mae’r adar hardd sgleiniog yma’n gwneud pob math o sŵn clicio, chwibanu a ratlo rhyfedd. Maen nhw’n gallu copïo synau hyd yn oed, gan gynnwys adar eraill, ffonau a larwm car.
Gwylan y penwaig
Dydi gwylanod ddim yn dibynnu ar wagu biniau am fwyd - mae ganddyn nhw ddigon o driciau eraill. Mae gwylanod y penwaig yn dawnsio am eu cinio yn aml iawn, gan stampio eu traed yn gyflym ar laswellt. Mae’r dirgrynu’n swnio’n debyg i law yn syrthio ac mae hyn yn gwneud i’r pryfed genwair ddod i’r wyneb!

Puss moth caterpillar ©Vaughn Matthews
Lindysyn
Mae lindys yn rhyfedd mewn cymaint o ffyrdd anhygoel. Mae ganddyn nhw fwy na 4,000 o gyhyrau yn eu corff ac maen nhw’n tyfu i 10,000 gwaith eu pwysau deor mewn dim ond ychydig o wythnosau! Wedyn maen nhw’n tyfu adenydd ac yn dysgu hedfan!
Pryf sgorpion
Mae gan y pryf rhyfedd yr olwg yma, sydd i’w weld mewn parciau a gerddi, syniad rhyfedd am ramant. Mae benyw yn debygol o ladd gwryw, felly er mwyn ceisio ei chael yn ffrind, mae’r gwryw yn rhoi anrheg iddi – dafn o’i boer. Gwell na siocled!

Richard Burkmar
Llyffant cyffredin
Mae llyffantod yn cau eu llygaid yn aml wrth fwyta. Efallai ei fod yn edrych fel eu bod nhw’n mwynhau pryf blasus ond a dweud y gwir maen nhw’n defnyddio peli eu llygaid i’w helpu i lyncu’r pryf! Mae’r llygaid yn symud yn ôl i’r pen i helpu i wthio bwyd i lawr gwddw’r llyffant.
Gwenynbryf
Mae gwenynbryfed ifanc yn byw mewn nythod gwenyn gan fwydo ar larfa gwenyn. Dydi gwenynbryfed benyw ddim yn gallu mynd i mewn i’r nyth i ddodwy eu hwyau felly maen nhw’n hofran ger y fynedfa ac yn taflu’r wyau i mewn. Maen nhw’n gallu dodwy miloedd o wyau y dydd.

Janet Packham - Janet Packham Photography
Cacynen
Efallai nad ydi traed drewllyd yn beth rhyfedd neu anghyffredin ond mae cacwn yn mynd â hynny i lefel uwch. Wrth lanio ar flodyn, maen nhw’n gadael olion traed drewllyd ar eu hôl. Wedyn mae cacwn eraill yn gallu defnyddio’r arogl i ddweud pwy sydd wedi bod ar y blodyn o’u blaen.