Enghreifftiau gorau o ymddygiad mamaliaid rhyfedd
Dosbarth o anifeiliaid yw mamaliaid. Mae ganddyn nhw waed cynnes ac mae ganddyn nhw ffwr a gwallt. Gallant hefyd fod ychydig yn rhyfedd! Dyma ein hoff enghreifftiau o rai arferion eithaf rhyfedd.

© Andy Rouse/2020VISION
Carlymod
Mae carlymod yn hoffi dipyn o bwgi yn gwneud rhywbeth o’r enw Dawns Ryfel, er mwyn hyponoteiddio eu hysglyfaeth! Maen nhw’n neidio o gwmpas, yn sefyll ar eu coesau ôl ac yn ysgwyd eu corff, ac wedyn yn neidio ar eu hysglyfaeth sydd wedi drysu’n lân.

© Carl Wright
Chwistlod
Mae chwistlod yn greaduriaid llwglyd iawn – rhaid iddyn nhw fwyta bob 2 i 3 awr i oroesi. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n gallu gaeafgysgu oherwydd fe fydden nhw’n llwgu. Mae chwistlod cyffredin yn mynd yn llai dros y gaeaf fel nad oes raid iddyn nhw fwyta gymaint.

© Niki Clear
Llamhidydd yr harbwr
Mae gan lamhidydd yr harbwr enw arall – ‘mochyn pwffian’! Y rheswm am hyn ydi’r sŵn pwffian maen nhw’n ei wneud weithiau wrth ddod i’r wyneb ac anadlu. Hefyd mae’r gair llamhidydd yn dod o air Lladin sy’n golygu ‘pysgodyn mochyn’.

© Mike Snelle
Gwiwerod coch
Mae gan wiwerod coch fferau deugymalog sy’n eu helpu nhw i ddringo i fyny ac i lawr coed yn dda. Hefyd maen nhw’n gallu bod yn llaw dde neu law chwith, yn union fel ni! Mae’r olion dannedd sy’n cael eu gadael ar foch coed yn dangos i ni os mai llaw dde neu law chwith ydi’r gwiwerod.

© Russell Savory
Ysgyfarnogod
Oeddet ti’n gwybod bod ysgyfarnogod yn gallu rhedeg yn llawer cyflymach na’r dyn cyflymaf, Usain Bolt? Pan maen nhw’n dianc rhag ysglyfaethwyr mae ysgyfarnogod yn gallu rhedeg ar gyflymder o 43 milltir yr awr – cyflymder mwyaf Bolt ydi 28 yr awr. Byddai’r ysgyfarnog yn ei adael ymhell ar ôl!

Amy Lewis
Llygod Medi
Y llygoden fedi yma ydi’r unig famal ym mhrydain gyda chynffon sy’n medru gafael am rywbeth. Mae hynny’n golygu eu bod yn gallu ei defnyddio fel braich neu goes. Maen nhw’n gallu ei defnyddio i gydio mewn coesyn ac felly maen nhw’n dda iawn am fwydo ar laswellt.

Andrew Parkinson/2020 VISION
Moch Daear
Mae moch daear yn paru drwy gydol y flwyddyn ond mae gan y benywod dric clyfar. Maen nhw’n cadw eu wyau wedi ffrwythloni’n ddiogel yn eu croth, ond dydi’r wyau ddim yn mewnblannu tan fis rhagfyr. Mae hyn yn golygu bod y rhai bach yn cael eu geni rhwng misoedd ionawr a mawrth ac yn dechrau gadael eu gwâl yn y gwanwyn pan mae digon o fwyd ar gael iddyn nhw.

Chris Gomersall/2020VISION
Dolffiniaid Risso
Efallai dy fod di’n gallu gweld bod y dolffin hardd yma’n greithiau i gyd. Maen nhw’n cael eu hachosi gan eu prif ysglyfaeth – stifflog! Maen nhw’n treulio llawer o amser mewn dŵr dyfn yn hela stifflog. Mae’r creithiau’n ei gwneud yn haws adnabod unigolion mewn pod, gan eu bod nhw i gyd yn wahanol.

Tom Marshall