Safleoedd dŵr croyw a gwlyb

Nene Wetlands

John Abbot

Safleoedd dŵr croyw a gwlyb

Pam mae tiroedd gwlyb yn bwysig?

Mae dŵr a bywyd gwyllt yn mynd law yn llaw a llawer o’n hardaloedd gorau ar gyfer bywyd gwyllt yw tiroedd gwlyb dŵr croyw. Mae heidiau enfawr o adar yn mudo i diroedd gwlyb y DU yn yr hydref a’r gaeaf!

Sedge warbler

Chris Gomersall/2020VISION

Mae gan diroedd gwlyb bridd cyfoethog, sy’n wych ar gyfer tyfu cnydau. O ganlyniad, yn anffodus, mae llawer o diroedd gwlyb wedi cael eu draenio i greu tir ar gyfer ffermio. Mae hon yn broblem gan fod tiroedd gwlyb yn bwysig iawn. 

  • Mae tiroedd gwlyb yn storio dŵr ac yn gallu helpu i atal llifogydd a sychder. 

  • Gall tiroedd mawn, math o dir gwlyb, storio carbon deuocsid o’r atmosffer. Mae hyn yn ein helpu ni i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

  • Mae gwely cyrs yn glanhau dŵr wedi’i lygru yn naturiol.

 

The importance of healthy rivers...

Wetlands

Lapwing flock (Vanellus vanellus) and a few Dunlin (Chalidris alpina) in flight over hoar frosted Bullrushes (Typha latifolia) and coming in to land on flooded, partly frozen marshland on a foggy winter day. Greylake RSPB reserve, Somerset Levels, UK, January. - Nick Upton/2020VISION/naturepl.com

Oeddech chi’n gwybod?

Mae tiroedd gwlyb yn amrywio o byllau bach a mân nentydd i afonydd hirion fel yr Hafren a thiroedd glwyb enfawr fel Llynnoedd Norfolk.

Bywyd gwyllt i gadw llygad amdano!

Adar

Mae tiroedd gwlyb dŵr croyw’n gynefin anhygoel ar gyfer adar. Os ydych chi’n hoffi gwylio adar, dyma’r lle i fynd! Ymhlith yr adar y gallwch ddisgwyl eu gweld mae hwyaid fel hwyaid gwyllt, hwyaid copog a hwyaid llydanbig, yn ogystal ag elyrch dof, glas y dorlan, ieir dŵr, cwtieir a llawer mwy!!

Lawrlwytho'r daflen sbotio adar tiroedd gwlyb 

Mwy o wybodaeth am gehyrod mawr a bach

Mamaliaid

Os oes dŵr, mae bywyd! Cadwch lygad am ddyfrgwn, llygod pengrwn y dŵr, llygon y dŵr, carw dŵr tsieineaidd a llygod ffyrnig.

Lawrlwytho'r daflen sbotio bywyd gwyllt tiroedd gwlyb 

Mwy o wybodaeth am dyfrgwn

Planhigion

Yn aml mae gan gynefinoedd llawn dŵr lawer o blanhigion hardd, gan gynnwys cyrs, cynffon y gath, hesg, brwyn, gellesg, lili wen y dŵr, dyfrllys, crafanc-y-frân y dŵr, cornllys, myrdd-ddail, llinad y dŵr a llysiau’r angel.

Lawrlwytho'r daflen sbotio mawndet

Mwy o wybodaeth am blanhigion rhyfedd

Pysgod

Mae cymaint o rywogaethau o bysgod i’w gweld mewn dŵr croyw, fel y gallwch chi ddychmygu! Cadwch lygad am frithyll, llysywod, crethyll, pilcod, draenogiaid dŵr croyw, penhwyaid a llawer mwy.

Lawrlwytho'r daflen sbotio pysgod 

Cynefinoedd eraill