BETH YW CORSYDD?
Mae cors yn safle eithriadol wlyb ac mae’n gallu cael ei galw’n fignen, siglen neu wern hefyd. Mae’r pridd yn yr ardaloedd hyn yn dywyll iawn ac yn cael ei alw’n fawn. Mae’n dal llawer o ddŵr fel bod llai o elfennau solet ynddo na llefrith, sy’n golygu ei bod yn hawdd iawn colli welingtyn ynddo!
Mae mawn yn cael ei greu yn araf iawn: tua 1mm y flwyddyn! Mae’n cynnwys deunydd marw sy’n pydru’n araf iawn, ac mae hyn yn golygu ei fod yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth. Gall yr haenau mewn darn o fawn o fil o flynyddoedd yn ôl ddweud wrth arbenigwr unrhyw beth o ba fath o blanhigion a phryfed oedd yn byw ar y pryd i a oedd llosgfynydd newydd ffrwydro yng Ngwlad yr Iâ!
PWY SY’N BYW MEWN CORS?
Gan fod corsydd mor wlyb, ychydig iawn o bethau sy’n hapus i fyw ynddyn nhw. Er mwyn goroesi, mae’n rhaid i lawer o’n planhigion ni feddwl am ffyrdd clyfar o ddal ati. Mae planhigion cigysol yn gwneud iawn am y diffyg maethynnau yn y pridd drwy wledda ar bryfed. Mae gan wlithlys ddail gludiog ac mae’n amhosib i bryfed ddianc oddi arnyn nhw.
MATHAU O GORSYDD
Mae llawer o wahanol fathau o gorsydd ar gael. Yn y DU mae gennym ni lawer o orgorsydd. Yn fyd-eang, maen nhw’n brin iawn ond gyda’n hinsawdd wlyb ni, maen nhw’n gorchuddio llawer o ardaloedd ledled Cymru, gogledd Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Roedd gan y DU lawer o gyforgorsydd ar dir isel ar un adeg hefyd ond, yn anffodus, mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu dinistrio am eu bod wedi cael eu torri i gael mawn i’w ddefnyddio i arddio neu cafodd y dŵr ei ddraenio ohonyn nhw er mwyn ceisio gwneud y tir yn well ar gyfer ei amaethu.
SUT GALLWCH CHI HELPU
Heddiw mae llawer o waith yn cael ei wneud i adfer corsydd. Maen nhw’n eithriadol bwysig i fywyd gwyllt, ond hefyd i’n helpu ni i frwydro yn erbyn newid hinsawdd gan eu bod nhw’n storio llawer iawn o garbon. Un peth pwysig allwn ni ei wneud i helpu yw peidio â phrynu compost mawn ar gyfer ein gerddi. Mae cloddio mawn o gorsydd yn golygu ein bod yn colli’r holl anifeiliaid rhyfeddol sy’n byw arnyn nhw, fel gweision y neidr a bodaod tinwyn.