Ble mae blodau gwyllt yn tyfu
Mae ein glaswelltiroedd ni’n hynafol - 12,000 o flynyddoedd oed o leiaf! Dechreuodd planhigion ‘chwyn’ a mwsogl dyfu ar y tir noeth a adawyd wedi i’r rhewlifau a arferai orchuddio’r tir doddi. Wedyn dechreuodd glaswelltau, hesg a llwyni dyfu yma hefyd – olyniaeth yw’r gair am hyn.
Mae llawer o’r glaswelltiroedd hynafol yma wedi’u colli yn awr wrth i ni ddefnyddio’r tir ar gyfer adeiladu neu ffermio. Mae hyn yn golygu bod llawer o’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n dibynnu ar y cynefin yma’n dirywio, gan gynnwys glöynnod byw, gylfinirod a chornchwiglod.
Oeddech chi'n gwybod?
Mae’r mathau o blanhigion welwch chi’n tyfu mewn glaswelltir yn rhoi cliw i chi am y pridd sydd dan yr wyneb. Glaswelltir sialc a chalchfaen sydd â’r amrywiaeth orau o flodau gwyllt; mewn glaswelltir sialc, weithiau fe welwch chi fwy na 30 o wahanol flodau gwyllt mewn un metr sgwâr!
Bywyd gwyllt i gadw llygad amdano
Adar a mamaliaid
Gallwch weld cudyllod cochion a thylluanod gwynion yn hedfan uwch ben glaswelltir gan ei fod yn gartref i’w hoff fwyd! Mae rhai mamaliaid bychain fel llygod pengron y maes yn cynnig byrbryd blasus i’r adar ysglyfaethus yma. Yn yr haf, fe welwch chi löynnod byw a gwenyn yn casglu neithdar, tra bod yr ehedydd prin yn nythu ar y ddaear ac i’w glywed weithiau’n canu yn uchel yn yr awyr, uwch ben ei safle nythu.
Mân-drychfilod
Mae glaswelltiroedd yn gynefin pwysig i fân-drychfilod. Mae llawer o löynnod byw i’w gweld yn hedfan ar ddolydd. Hefyd efallai y gwelwch chi geiliogod rhedyn, criciaid a phryfed cop.
Planhigion
Mae glaswelltiroedd yn gyforiog o flodau. Efallai y gwelwch chi lygaid y dydd, blodau menyn, meillion neu degeirianau hyd yn oed os ydych chi’n lwcus.