Beth yw mynydd?
Mynyddoedd yw ein copaon uchaf ni, gyda’r tir o amgylch yn llawer is yn y dyffrynnoedd. Mae wynebau danheddog y creigiau ymhlith y tirweddau gwylltaf a mwyaf trawiadol yn y DU. Yn aml maen nhw’n serth iawn (serthach ac uwch na bryniau), ac yn fwy na 600 metr o uchder. Wrth symud o’r copa i lawr y llethr, efallai y gwelwch chi rostir grug, corsydd a choetiroedd yn nannedd y gwynt.
Oeddech chi’n gwybod?
Er eu bod yn ymddangos yn wyllt, mae’r cynefinoedd o rostir ar lethrau ein mynyddoedd ni wedi cael eu creu gan bobl er mwyn i ddefaid gael pori yno. Yn wreiddiol, roedd yr ardaloedd hyn wedi’u gorchuddio â llwyni a choetiroedd. Dim ond copaon y mynyddoedd a wynebau’r creigiau sy’n wirioneddol wyllt!
Adar
Yr adar welwch chi’n hedfan yn uchel uwch ben y dirwedd hardd yma, neu’n nythu ar y rhostir, yw cigfrain, bwncathod, hebogau tramor, grugieir coch a thinwennod y garn.
Mamaliaid
Ymhlith y mamaliaid sy’n byw yn y cynefinoedd arbennig yma mae ceirw coch, ffwlbartiaid, beleod, cathod gwyllt ac ysgyfarnog drawiadol y mynydd!
Lawrlwytho'r daflen sbotio mamaliaid pori
Mân-drychfilod
Mae llawer o drychfilod i’w canfod dim ond i chi edrych yn fanwl! Cadwch lygad am bryfed cop, gwenyn mêl, cacwn, chwilod y grug a gwyfynod.