Beth yw Taith Gerdded y Draenogod?
Taith Gerdded y Draenogod yw her codi arian flynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur sydd wedi’i dylunio’n arbennig ar gyfer archwilwyr bach, lle rydyn ni’n gofyn i deuluoedd, ysgolion, clybiau a grwpiau dysgu gerdded 3km rhwng 31ain Mawrth a 13eg Ebrill a chodi arian ar gyfer ein gwaith hanfodol ni.
Ble mae Taith Gerdded y Draenogod yn digwydd?
Fe allwch chi wneud Taith Gerdded y Draenogod yn unrhyw le! Digwyddiad codi arian rhithwir ydi Taith Gerdded y Draenogod, sy’n golygu y gallwch chi gwblhau eich her lle bynnag rydych chi’n dymuno.
Beth os nad oes gennym ni fynediad i fyd natur?
Rydyn ni’n annog pawb i godi allan i fyd natur os ydi hynny’n bosib, ond rydyn ni’n deall nad ydi llefydd gwyllt yn hygyrch i bawb (eto).
Os nad oes gennych chi fynediad i ofod gwyllt, fe allwch chi gwblhau eich her lle bynnag y gallwch chi. Fe allech chi wneud y canlynol:
• Mynd am dro drwy eich parc lleol, cae chwarae neu yn eich gardd
• Cerdded i'r ysgol bob dydd drwy gydol Taith Gerdded y Draenogod
Os ydych chi eisiau help neu gyngor i ddod o hyd i lwybrau cerdded lleol, fe allech chi wneud y canlynol:
• Dod o hyd i'ch Ymddiriedolaeth Natur leol
• Dod o hyd i'ch gwarchodfa natur agosaf
• Dod o hyd i lwybr cerdded yn eich ardal chi
Os ydych chi'n cwblhau Taith Gerdded y Draenogod fel ysgol neu grŵp dysgu, mae gennym ni lawer o syniadau i'ch helpu chi a’ch rhai bach i gwblhau eich her. Ewch i'n tudalen adnoddau ni i gael gwybod mwy.
Sut mae cofrestru?
Fe allwch chi greu eich tudalen codi arian drwy ddilyn y ddolen yma. Os yw'n well gennych chi, gallwch godi arian drwy JustGiving, Facebook, neu drwy ddefnyddio ffurflen nawdd.
Oes rhaid i mi dalu am gymryd rhan?
Nac oes, mae ymuno â her Taith Gerdded y Draenogod am ddim. Bydd pawb sy'n codi £30 drwy ein tudalennau codi arian ni’n derbyn clwtyn gwnïo (cyfyngedig i un fesul pob tudalen codi arian)
Sut mae creu neu ymuno â thîm?
Pan fyddwch chi’n cofrestru, fe allwch chi ddewis yr opsiwn i greu tîm ac anfon gwahoddiadau at aelodau eraill o'ch tîm i ymuno. Hefyd mae opsiwn i ddod o hyd i dîm sy'n bodoli eisoes pan fyddwch chi'n cofrestru drwy nodi enw'r tîm.
Ydw i'n cael unrhyw beth am gymryd rhan?
Bydd pawb sy’n codi £30 drwy ein tudalennau codi arian ni’n derbyn clwtyn gwnïo (cyfyngedig i un fesul pob tudalen codi arian), yn ogystal â thystysgrif y byddwn yn ei hanfon atoch chi ar e-bost ar ôl i’r her ddod i ben.
Os ydych chi'n cymryd rhan yn Nhaith Gerdded y Draenogod fel ysgol, clwb neu grŵp dysgu, ac yn codi £30, bydd eich rhai bach yn derbyn taflen sticeri Taith Gerdded y Draenogod (cyfyngedig i un fesul pob tudalen codi arian) i ddweud diolch!
Ble mae dod o hyd i'r adnoddau y mae posib eu lawrlwytho am ddim?
Ar ôl i chi gofrestru i gymryd rhan, byddwch yn derbyn e-bost gennym ni gyda dolenni i'ch adnoddau Taith Gerdded y Draenogod (gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych yn eich ffolder jync!)
Oes posib i mi gysylltu â'r Ymddiriedolaethau Natur os oes gen i gwestiynau am Daith Gerdded y Draenogod?
Oes, fe allwch chi anfon e-bost atom ni ar hello@wildlifetrusts.org neu ein ffonio ni ar 01636 677711.