
Dead man's fingers by Chris Lawrence
Rhif 6 – bysedd y meirw
Mae’r bysedd du, chwyddedig yma’n ymestyn allan o’r ddaear gan edrych fel pe baent yn estyn allan o’r bedd! Fe welwch chi nhw yn tyfu drwy fwsogl a phren marw.

Weeping widow by Ali Mckernan
Rhif 5 - dagrau’r weddw
Daw’r enw o’r dafnau du, dyfrllyd mae’n eu cynhyrchu – fel pe bai’n crïo dagrau du!

Elfin saddle by Ali Mckernan
Rhif 4 – coesyn rhychog du
Ysbryd a sgerbwd! Mae’r coesynnau’n llwyd neu frown ac yn cynnwys siambrau mewnol. Mae’r capiau’n ystumio yn aml, gan edrych yn fwy dychrynllyd fyth!

Collared earthstar by Ali Mckernan
Rhif 3 – seren ddaear dorchog
Mae’r creaduriaid yma sy’n debyg i beli llygaid i’w gweld mewn coetiroedd yng nghanol sbwriel dail. Dydych chi byth yn gwybod beth sy’n eich gwylio chi wrth gerdded drwy’r coetir...

Purple jellydisc fungus by Kimberley Louise
Rhif 2 – ffwng botwm jeli piws
Mae’n edrych fel ymennydd! Yn eithaf cyffredin, mae’r ffwng dychrynllyd yma’n tyfu ar bren coed collddail sy’n pydru.

Devil's fingers by Anita Godwin
Rhif 1 – bysedd y cythraul
Y ffwng mwyaf dychrynllyd yn bod! Mae ffwng bysedd y cythraul yn deor o ‘ŵy’ llysnafeddog sydd fel jel. Wrth iddo dyfu, mae’r breichiau tebyg i dentaclau’n dechrau ymestyn am allan...