Môr-gyllell gyffredin

Common Cuttlefish

Common Cuttlefish ©Alex Mustard/2020VISION

Môr-gyllell gyffredin

+ -
Enw gwyddonol: Sepia officinalis
Mae môr-gyllyll yn perthyn i ystifflogod ac octopysau – grŵp o folysgiaid sy’n cael eu hadnabod fel seffalopodau. Efallai eich bod chi wedi gweld y gragen fewnol sialcog, o’r enw asgwrn cyllell, wedi’i golchi ar draethau ledled y DU. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio mewn caets bwji yn aml, fel ategolyn llawn calsiwm at ddeiet yr aderyn.

Top facts

Stats

Hyd: hyd at 45 cm
Yn byw ar gyfartaledd am: 2 flynedd

Conservation status

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Ynghylch

Môr-gyllyll cyffredin yw’r môr-gyllyll mwyaf sydd i’w gweld ym moroedd y DU ac maen nhw’n ysglyfaethwyr ffyrnig. Maen nhw’n bwyta crancod, pysgod a hyd yn oed môr-gyllyll bach mewn dim o dro! Maen nhw’n byw mewn dŵr hyd at 200 metr o ddyfnder ond yn dod i ddyfroedd bas i fagu yn y gwanwyn. Mae eu hwyau’n cael eu lliwio’n ddu gydag inc môr-gyllyll, sy’n gwneud iddyn nhw edrych fel grawnwin – a dyma o ble mae’r enw ‘grawnwin y môr’ ar eu cyfer yn dod. Fel rheol mae môr-gyllyll yn byw am ddwy flynedd ac wedyn yn marw ar ôl magu.

What to look for

Mae’r fôr-gyllell yn greadur byrdew tebyg i ystifflog gyda phen a llygaid mawr, a cheg gyda gên sy’n debyg i big. Mae ei hasgell yn rhedeg rownd y corff, mae ganddi wyth ‘braich’ gyda sugnyddion a hefyd dau dentacl o amgylch y geg. Mae môr-gyllyll yn eithriadol amrywiol eu lliw, ond fel arfer yn frownddu, brith neu streipiog. Mae’r esgyrn cyllyll sy’n cael eu golchi ar y lan yn wyn, sialcog a siâp hirgrwn gydag ‘adenydd’ caletach tenau yn un pen.

Where to find

I’w gweld o amgylch holl arfordiroedd y DU, yn fwy cyffredin ar arfordir y de a’r gorllewin.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae môr-gyllyll yn gallu newid lliw a gwead yn gyflym er mwyn toddi i’w cefndir, tynnu sylw ysglyfaethwyr neu ddenu cymar. Maen nhw’n gallu dynwared gwahanol fathau o wely môr a byddant weithiau’n suddo i wely môr tywodlyd er mwyn cuddio rhag ysglyfaethwyr, gan adael dim ond eu llygaid yn y golwg. Yn ystod y gwanwyn a’r haf, mae’r gwrywod yn dod allan gan roi arddangosfa drawiadol er mwyn denu benywod, gan basio curiadau o liw yn gyflym ar hyd eu corff.