Llygad maharen

Limpets

Limpets ©Richard Burkmar

Llygad maharen

+ -
Os ydych chi wedi bod yn archwilio pyllau creigiog erioed, mae’n bur debyg eich bod wedi gweld llygad maharen neu ddau! Mae eu cregyn siâp côn yn glynu wrth y creigiau nes bod y llanw’n dod i mewn, ac wedyn maen nhw’n brysur. Mae llygaid meheryn yn symud o gwmpas gan fwyta algâu gan ddefnyddio eu tafod garw.

Enw gwyddonol

Patella vulgata

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Top facts

Stats

Hyd: 4 cm
Hyd bywyd: 10-20 mlynedd
Common

Habitats

Ynghylch

Llygaid meheryn yw’r cregyn bach tebyg i gôn sydd i’w gweld yn aml wedi glynu’n dynn wrth ochr y creigiau mewn pyllau. Er nad ydyn nhw’n edrych yn drawiadol ar yr olwg gyntaf, unwaith mae’r llanw’n dod i mewn maen nhw’n brysur iawn, yn symud o amgylch y creigiau yn bwyta algâu gan ddefnyddio eu tafod garw. Eu tafod yw’r strwythur biolegol cryfaf yn y byd – mae’n gorfod bod yn gryf er mwyn crafu algâu oddi ar gerrig garw yn gyson!

What to look for

Mae tair rhywogaeth debyg iawn o lygaid meheryn i’w gweld ar draethau’r DU. Mae gan y llygad maharen cyffredin gragen siâp côn lwydaidd ac mae ychydig yn fwy na’r ddwy rywogaeth arall. Mae gan y llygad maharen troed-ddu, Patella depressa, gragen lai, fwy gwastad, ac mae i’w weld yn bennaf o amgylch de’r wlad. Mae gan lygad maharen Tsieina, Patella ulssiponensis, smotyn oren y tu mewn i’w gragen.

Where to find

I’w weld ar draethau creigiog o amgylch arfordir y DU.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae llygaid meheryn yn symud dros greigiau pan mae’r llanw i mewn, ond bob amser yn dychwelyd i’w hoff lecyn pan fydd y llanw’n mynd allan, gan ddilyn y llwybr o fwcws maen nhw wedi’i adael. Mae ôl traul ymylon y gragen i’w weld yn y llecyn yma, ac yn y diwedd mae ‘craith’ amlwg yn cael ei chreu yn y graig. Mae’r ‘graith gartref’ yma’n helpu’r llygad maharen i lynu’n well wrth y graig, gan ei atal rhag sychu nes i’r llanw ddod i mewn eto.