Morgath Fannog
Enw gwyddonol: Raja montagui
Mae'r forgath frech yn un o'r rhywogaethau lleiaf o forgathod, sy'n tyfu i ddim ond 80cm.
Top facts
Stats
Hyd: Hyd at 80 cmPwysau: Hyd at 4.5 kg
Conservation status
Mae'r forgath frech wedi'i rhestru fel y Pryder Lleiaf ar Restr Goch yr IUCN.
Pryd i'w gweld
Yn bresennol drwy gydol y flwyddyn.Ynghylch
Y forgath frech siâp diemwnt yw un o'r rhywogaethau lleiaf o forgathod. Mae ganddi ddeiet amrywiol, ac mae’n bwyta cramenogion, pryfed genwair a physgod. Mae'r rhai ifanc yn byw mewn ardaloedd bas ger yr arfordir yn aml, sef meithrinfeydd, ond mae’r oedolion fel arfer i'w gweld ymhellach oddi ar y lan.Mae’r forgath frech yn gallu atgynhyrchu'n gyflymach na rhai o'r morgathod eraill, gan ei gwneud yn llai agored i orbysgota.
Er ei bod yn cael ei galw'n gyffredin yn forgath frech, rhywogaeth o arwbysgod yw hon (ac mae’n cael ei galw weithiau yn arwbysgodyn brych). Mae perthynas agos rhwng morgathod a garwbysgod ac maen nhw’n edrych yn debyg, ond gallwch weld y gwahaniaeth drwy edrych ar y gynffon. Mae gan y garwbysgod gynffon fer gydag esgyll bach ac nid ydynt yn gallu brathu, ond mae gan y morgathod gynffon hir fel chwip.
What to look for
Mae gan y forgath frech nifer o smotiau tywyll ar hyd ei chefn, ac eithrio ar ymyl ei hadenydd, ac weithiau mae smotyn llygaid ar bob adain.Gellir ei chamgymryd am y forgath felen, ond mae ffordd hawdd o wahaniaethu rhyngddynt! Nid yw'r patrwm brych ar gefn y forgath frech yn ymestyn yr holl ffordd i ymyl ei hadenydd, gan adael ymyl brown/melyn plaen.