
Tope ©Peter Verhoog
Ci glas
Mae'r rhywogaeth yma o siarc main a chain i'w gweld yn aml yn agos at y lan o amgylch ein harfordiroedd a gall dyfu i fod hyd at 6 troedfedd o hyd.
Enw gwyddonol
Galeorhinus galeusPryd i'w gweld
Ionawr i Rhagfyr.Top facts
Stats
Hyd: Hyd at 195cmPwysau: 45kg
Oes Ar Gyfartaledd: Gall fyw am fwy na 50 mlynedd
Mae'r ci glas wedi'i restru fel rhywogaeth Mewn Perygl Difrifol ar Restr Goch yr IUCN ac mae'n Rhywogaeth Blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.