Ystlum hirglust

Brown long-eared bat

©Tom Marshall

Ystlum hirglust

+ -
Enw gwyddonol: Plecotus auritus
Mae’r ystlum hirglust yn driw i’w enw yn sicr: mae ei glustiau bron mor hir â’i gorff! Cadwch lygad amdano’n bwydo ar hyd gwrychoedd, mewn gerddi ac mewn coetiroedd.

Top facts

Stats

Hyd: 3.7-5.2 cm
Lled yr adenydd: 20-30 cm
Pwysau: 6-12 g
Yn byw ar gyfartaledd am: 4-5 blynedd

Conservation status

Mae’n cael ei warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981. Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU. Wedi’i restru fel Rhywogaeth Dan Warchodaeth Ewropeaidd o dan Atodiad IV Cyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop.

Pryd i'w gweld

Ebrill - Hydref

Ynghylch

Mae’r ystlum hirglust yn ystlum o faint canolig gyda chlustiau enfawr. Fel holl ystlumod y DU, mae’n nosol, gan ddod allan yn ystod y nos yn unig i fwydo ar wybed mân, gwyfynod a phryfed eraill sy’n hedfan. Mae ganddo synnwyr cyfeiriad rhagorol diolch i ecoleoliad, y mae’n ei ddefnyddio i hela ysglyfaeth. Mae ystlumod hirglust yn clwydo mewn tyllau mewn coed a hen adeiladau, ac yn bwydo mewn parciau, gerddi a choetiroedd. Yn ystod yr haf, mae’r benywod yn ffurfio poblogaethau mamolaeth ac yn cael dim ond un ystlum bach yr un. Maen nhw’n gaeafgysgu rhwng misoedd Tachwedd ac Ebrill.

What to look for

Mae gan yr ystlum hirglust ffwr llwydfrown a chlustiau nodedig o fawr, sydd bron mor hir â’i gorff. Mae’n hedfan yn gymharol araf a chrynedig.

Where to find

Eang ond yn absennol o rai o ynysoedd yr Alban.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae’r ystlum hirglust yn cael ei adnabod fel yr ‘ystlum sibrwd’ gan fod ei lais yn dawel iawn – does dim angen gweiddi pan mae gennych chi glustiau mor fawr! Wrth orffwys, mae’n tueddu i naill ai gyrlio ei glustiau yn ôl neu eu rhoi’n ddiogel o dan ei adenydd.