Llygoden bengron y dŵr

water vole wildlife trust

Terry Whittaker/2020VISION

Water vole

©Margaret Holland

Llygoden bengron y dŵr

+ -
Enw gwyddonol: Arvicola amphibius
Mae llygoden bengron y dŵr dan fygythiad difrifol oherwydd colli cynefin ac ysglyfaethu gan y minc Americanaidd. Ar hyd ein dyfrffyrdd ni, mae'n edrych yn debyg i'r llygoden fawr frown, ond gyda thrwyn fflat, clustiau bach a chynffon flewog.

Top facts

Stats

Hyd: 14-22cm
Cynffon: 9.5-14cm
Pwysau: 150-300g
Oes ar gyfartaledd: 0.5-1.5 mlynedd

Conservation status

Rhestrir llygod pengrwn y dŵr fel creaduriaid sydd mewn perygl ar Restr Goch Mamaliaid Prydain Fawr a Lloegr.

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Ynghylch

Mae llygoden bengron y dŵr yn byw ar hyd afonydd, nentydd a ffosydd, o amgylch pyllau a llynnoedd, ac mewn corsydd, gwelyau cyrs ac ardaloedd o rostir gwlyb. Cadwch lygad am arwyddion o lygod pengrwn y dŵr, fel tyllau ar lan yr afon, yn aml gyda ‘lawnt’ o laswellt wedi’i chnoi o amgylch y fynedfa.

Mae llygod pengrwn y dŵr yn hoffi eistedd a bwyta yn yr un lle, felly gellir dod o hyd i bentyrrau o laswellt a choesynnau wedi’u cnoi ger ymyl y dŵr, gan ddangos toriad onglog nodedig, 45 gradd, ar y pennau. Hefyd mae'n bosibl gweld ‘tai bach’ o dail crwn, siâp sigâr. Mae llygod pengrwn y dŵr yn dechrau magu yn y gwanwyn ac yn cael tri i bedwar torllwyth y flwyddyn o hyd at bump o rai bach.

What to look for

Mae gan lygoden bengron y dŵr ffwr brown gwinau, trwyn fflat, crwn, clustiau bach, a chynffon flewog. Mae'n llawer mwy na’r rhywogaethau eraill o lygod pengrwn. Mae llygod pengrwn y dŵr yr Alban yn ymddangos yn dywyllach yn aml, ac mae gan lawer ffwr du.

Mae'r llygoden fawr frown debyg yn fwy, gyda ffwr llwydfrown, trwyn pigfain, clustiau mawr sy'n ymwthio allan o'i ffwr, a chynffon hir, gennog.

Where to find

Mae'n parhau i fod yn gyffredin ar draws tir mawr y DU, er bod yr ystod a’r niferoedd wedi gostwng yn sylweddol. Mae’n absennol o Ynysoedd y Sianel, Ynysoedd Sili, ynysoedd yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae llygoden bengron y dŵr yn enwog fel 'Ratty' yn stori glasurol Kenneth Grahame i blant, The Wind in the Willows. Er bod pobl yn cyfeirio ati weithiau fel 'llygoden fawr y dŵr', does dim y fath beth - mae llygod mawr brown, llygod mawr du a llygod pengrwn y dŵr.