
Red squirrel © Mark Hamblin/2020VISION
Gwiwer goch
Mae’n bur debyg eich bod chi wedi gweld llawer o wiwerod – ond ydych chi wedi gweld un goch? Mae gwiwerod coch yn frodorol i’r DU ond yn llawer prinnach na’u cefndryd llwyd! Maen nhw’n byw mewn ychydig o lefydd arbennig ledled y DU diolch i brosiectau ailgyflwyno.
Enw gwyddonol
Sciurus vulgarisPryd i'w gweld
Ionawr i RhagfyrTop facts
Stats
Hyd: 18-24 cmCynffon: 17-18 cm
Pwysau: 100-350 g
Yn byw ar gyfartaledd am: 6 blynedd
Protected in the UK under the Wildlife and Countryside Act, 1981. Priority Species under the UK Post-2010 Biodiversity Framework.
Ynghylch
Mae gwiwerod coch brodorol yn llawer prinnach yn y DU na’u cefndryd Americanaidd, y gwiwerod llwyd. I’w gweld fel rheol mewn coetiroedd conwydd, maen nhw’n hoffi gwledda ar gnau cyll drwy gracio’r gragen yn ei hanner. Os byddwch chi’n lwcus, efallai y gwelwch chi foch coed sydd wedi cael eu cnoi gan adael beth sy’n edrych fel canol afal ar ôl! Mae gwiwerod coch yn creu nyth arw allan o frigau, dail a thameidiau hir o risgl i fyny yn uchel yng nghanopi’r coed. Gellir gweld y gwrywod yn rhedeg ar ôl y benywod drwy’r coed, ac yn llamu ar draws y canghennau a throelli i fyny boncyffion coed.What to look for
Mae gan y wiwer goch ffwr cochfrown ac mae’n olau oddi tanodd. Mae ganddi gynffon flewog iawn. Mae’n hawdd dweud y gwahaniaeth rhyngddi a’r wiwer lwyd oherwydd ei bod yn llai, mae ei ffwr yn goch ac mae ganddi gudynnau mawr, nodweddiadol ar ei chlustiau.Where to find
I’w gweld yn yr Alban, Ardal y Llynnoedd a Northumberland; poblogaethau ynysig yn weddill ymhellach i’r de yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Formby, Ynys Môn, Ynys Brownsea yn Dorset, ac Ynys Wyth.Roeddech chi yn gwybod?
Nid yw gwiwerod coch yn gaeafgysgu, ond maen nhw’n cadw stôr o fwyd i’w cynnal drwy gyfnodau anodd pan nad oes bwyd ffres ar gael. Eu hoff gynefin yw coetir llydanddail cymysg a chonwydd ac mae ganddyn nhw ffynhonnell o fwyd drwy gydol y flwyddyn yno, gan fod hadau pîn yn bresennol drwy gydol misoedd y gaeaf.Gwyliwch
Red Squirrel (https://vimeo.com/642268637)
John Bridges