Bronwen

Weasel

Weasel © Elliot Smith

Weasel

©Amy Lewis

Bronwen

+ -
Enw gwyddonol: Mustela nivalis
Efallai bod bronwennod yn edrych yn hoffus ond maen nhw’n gallu bwyta llygod pengrwn, llygod ac adar mewn dim o dro! Maen nhw’n perthyn i ddyfrgwn a charlymod, sy’n amlwg o weld eu corff main, hir a’u coesau byrion.

Top facts

Stats

Hyd: 17-22 cm
Cynffon: 3-5 cm
Pwysau: 55-130 g
Yn byw ar gyfartaledd am: 2 flynedd

Conservation status

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Ynghylch

Bronwennod yw cigysyddion lleiaf y DU. Maen nhw’n hoffi bwyta llygod pengrwn, llygod ac adar bach. Maen nhw’n perthyn i grŵp o anifeiliaid o’r enw carlymoliaid, sy’n golygu bod ganddyn nhw gorff hir a choesau byrion ac maen nhw’n perthyn i ddyfrgwn a charlymod. Maen nhw’n byw mewn llawer o wahanol gynefinoedd, gan gynnwys coetir, glaswelltir a rhostir. Yr enw ar eu rhai bach yw cenawon ac maen nhw’n rhoi genedigaeth ddwywaith y flwyddyn, gyda thri i chwech o genawon yn cael eu geni bob tro.

What to look for

Cefn cochfrown sydd gan fronwennod a gwddw a bol gwyn hufennog. Maen nhw’n llai na’r carlwm, sy’n debyg iawn, gyda chynffon fyrrach heb flaen du arni, gyda cherddediad sy’n debyg i redeg a chefn syth. Mae carlymod yn llamu wrth symud, gan grymu eu cefnau wrth fynd.

Where to find

Eang yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ond yn absennol o Ogledd Iwerddon a’r rhan fwyaf o’r ynysoedd.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae bronwennod mor fach ac ystwyth fel eu bod yn ffitio yn nhyllau’r llygod sy’n ysglyfaeth iddyn nhw, ac felly maen nhw’n gallu hela yn ystod y dydd a’r nos mewn unrhyw dymor; maen nhw’n gallu hela yn yr eira hyd yn oed!