Afanc

Beaver

Beaver ©Nick Upton

(C) David Parkyn

©David Parkyn

Beaver eating

Beaver ©David Parkyn

Beaver swimming

Beaver ©David Parkyn

Afanc

+ -
Enw gwyddonol: Castor fiber
Afancod yw peirianwyr byd yr anifeiliaid; os nad yw eu cartref yn ddigon da, nid yw gwneud ambell welliant yn creu unrhyw broblem iddyn nhw! Mae’r anifeiliaid anhygoel yma wedi addasu’n berffaith ar gyfer bywyd ar y tir ac yn y dŵr – mae ganddyn nhw gynffon fflat drawiadol a thraed gweog.

Top facts

Stats

Hyd: 70-100 cm
Cynffon: 30-40 cm
Pwysau: 18-30 kg
Yn byw ar gyfartaledd am: 10-15 mlynedd

Conservation status

Mae afancod yn cael eu hailgyflwyno i wahanol rannau o Brydain Fawr ar ôl absenoldeb am tua 400 mlynedd.

Pryd i'w gweld

Yn weithredol rhwng misoedd Ionawr a Rhagfyr ond yn haws ei weld yn ystod y dydd rhwng misoedd Mai a Medi.

Ynghylch

Afancod yw cnofilod mwyaf Prydain, yn perthyn i’r un grŵp â llygod mawr, llygod a llygod pengrwn. Diolch i’w cynffon fflat a’u traed gweog, mae’r anifeiliaid anhygoel yma’n addas i fywyd ar y tir ac yn y dŵr. Bydd y peirianwyr clyfar yma’n adeiladu argaeau i greu pyllau dwfn o ddŵr iddyn nhw eu hunain, gan drawsnewid eu hamgylchedd drwy dorri coed bach ar gyfer bwyd ac fel cyflenwadau adeiladu. Wedi’r cyfan, does dim un cartref i afancod yn gyflawn heb eu pwll nofio preifat eu hunain. Mae afancod yn byw gyda’u teulu, tua phum unigolyn fel rheol, sy’n cynnwys oedolion, cenawon bach ac afancod blwydd. Mae afancod yn cysgu drwy gydol y dydd, gan ffafrio dod allan pan mae’r haul yn codi a’r haul yn machlud.

What to look for

Mae’r afanc Ewropeaidd mor fawr â chi Labrador ond gyda choesau byrrach ac mae’n anifail cryf a thrwm. Dwy nodwedd arbennig ganddo yw cynffon lydan, fflat wedi’i gorchuddio gan gennau, a thraed gweog. Mae ganddo lygaid a chlustiau bychain, a ffwr brown golau.

Where to find

Mae niferoedd bach wedi’u hailgyflwyno i leoliadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban o dir mawr Ewrop.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae afancod Ewropeaidd yn creu argaeau er mwyn gallu symud a bwydo’n ddiogel. Hefyd maen nhw’n hoffi i fynedfa eu twll fod o dan ddŵr. Os nad oes dŵr digon dyfn yn bodoli eisoes wrth eu mynedfa, byddant yn creu pwll. Mewn afonydd a llynnoedd mwy, nid oes arnyn nhw angen adeiladu argaeau.

Drwy docio coed ac adeiladu argaeau, mae afancod yn creu cynefinoedd tir gwlyb sydd o fudd enfawr i nifer o rywogaethau eraill, o lygod pengrwn y dŵr i amffibiaid, gweision y neidr ac adar. Hefyd mae gan afancod drydydd amrant tryloyw (o’r enw pilen amrannol) sy’n gwarchod eu llygaid wrth iddyn nhw nofio o dan y dŵr.