Gwyfyn teigr y benfelen

Cinnabar moth

©Bob Coyle

Cinnabar moth caterpillar

Cinnabar moth caterpillar ©Andrew Hankinson

Gwyfyn teigr y benfelen

+ -
Enw gwyddonol: Tyria jacobaeae
Mae’n hawdd drysu’r gwyfynod du a choch hardd yma am löynnod byw yn aml! Mae eu lindys du a melyn yn olygfa gyffredin ar blanhigion llysiau’r gingroen. Mae lliwiau llachar y lindys yn rhybuddio ysglyfaethwyr rhag eu bwyta, gan roi arwydd cryf eu bod yn wenwynig!

Top facts

Stats

Lled yr adenydd: 3.4-4.6cm

Conservation status

Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.

Pryd i'w gweld

Mai - Awst

Ynghylch

Mae gwyfyn teigr y benfelen yn dechrau ei fywyd fel lindys melyn a du ac mae’n hoff iawn o wledda ar blanhigion llysiau’r gingroen. Mae ei liw llachar yn rhybuddio ysglyfaethwyr ei fod yn wenwynig ond dim ond ar ôl bwydo ar lysiau’r gingroen mae’n cronni gwenyn. Mae’r lindys yn treulio’r gaeaf fel cocŵn ar wyneb y ddaear cyn dod allan fel gwyfynod yn yr haf. Gellir gweld gwyfyn teigr y benfelen yn hedfan yn ystod y dydd a’r nos ac mae’n cael ei gamgymryd yn aml am löyn byw.

What to look for

Mae teigr y benfelen yn lliw du fel llechi gyda dau smotyn coch a dwy streipen gochbinc ar yr adenydd blaen crwn. Mae ei adenydd ôl yn gochbinc gydag ymyl ddu. Mae posib dweud y gwahaniaeth rhyngddo â’r gwyfyn bwrned tebyg gan fod ei adenydd yn lletach a barrau coch yn hytrach na smotiau coch sydd gan y bwrned.

Where to find

Eang

Roeddech chi yn gwybod?

Mae teigr y benfelen wedi’i enwi yn Saesneg ar ôl y mwyn coch, Sinabar, mwyn o’r metel Mercwri.