Mantell goch

Red Admiral butterfly

Red Admiral ©Guy Edwardes/2020VISION

Red Admiral

Red Admiral ©Guy Edwardes/2020VISION

Mantell goch

+ -
Enw gwyddonol: Vanessa atalanta
Mae'r fantell goch yn ymwelydd â'r ardd yn sicr. Gellir gweld y glöyn du a choch hardd yma yn bwydo ar flodau ar ddyddiau cynnes drwy gydol y flwyddyn. Mudwyr yw’r oedolion yn bennaf, ond mae rhai yn gaeafgysgu yma.

Top facts

Stats

Lled yr adenydd: 6.4-7.8cm

Conservation status

Common.

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Ynghylch

Yn löyn byw du, gwyn a choch gweddol fawr, mae’r fantell goch yn ymwelydd trawiadol â’n gerddi ni a gellir ei gweld yn bwydo ar goed mêl a blodau eraill. Bydd hefyd yn ymweld â phob math o gynefinoedd eraill, o lan y môr i fynyddoedd! Mae’r oedolion yn gaeafgysgu weithiau, a gellir eu gweld yn hedfan ar ddyddiau cynnes drwy gydol y flwyddyn, er eu bod yn fwyaf cyffredin yn yr haf a dechrau'r hydref. Mae'r lindys yn bwydo ar ddanadl poethion.

What to look for

Du yw'r fantell goch yn bennaf, gyda streipiau llydan, coch ar yr adenydd ôl a'r adenydd blaen, a smotiau gwynion ger blaen yr adenydd blaen.

Where to find

Widespread.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae’r rhan fwyaf o’r mentyll coch yn fudwyr i’r DU o Ogledd Affrica a chyfandir Ewrop, gan gyrraedd yn y gwanwyn a dodwy wyau sy’n deor o fis Gorffennaf ymlaen. Ond mae rhai oedolion yn llwyddo i oroesi'r gaeaf drwy aeafgysgu yma.

Gwyliwch

Red admiral feeding on the ground © Tom Hibbert