
7-spot Ladybird ©Rachel Scopes

7-spot Ladybird ©Dawn Monrose

7-spot Ladybird larva ©Amy Lewis
Buwch goch gota saith smotyn
Dyma un o’n buchod coch cota mwyaf cyffredin ac mae’r marciau coch a du ar y fuwch goch gota saith smotyn yn gyfarwydd iawn. Mae buchod coch cota’n ffrindiau da i arddwyr gan eu bod yn bwyta pryfed sy’n hoffi gwledda ar blanhigion yr ardd! Gallwch eu hannog i’ch gardd drwy osod bocs pryfed yn ei le.