Gwenynen feirch

Common Wasp

Common Wasp ©Mike Snelle

Gwenynen feirch

+ -
Enw gwyddonol: Vespula vulgaris
Mae gwenyn meirch yn gyfarwydd iawn ond er hynny, dydyn nhw ddim yn boblogaidd iawn! Ond rhowch siawns i’r ffrindiau du a melyn yma, oherwydd maen nhw’n beillwyr pwysig a hefyd yn dda iawn am reoli plâu.

Top facts

Stats

Hyd: hyd at 2 cm

Conservation status

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Ebrill - Hydref

Ynghylch

Er bod ganddi enw drwg, mae’r wenynen feirch yn beilliwr pwysig a hefyd yn dda iawn am reoli plâu. Mae’n byw mewn grwpiau mawr mewn bylchau mewn tai a thoeau ac yn byw mewn nythod wedi’u creu o ‘bapur’, sy’n cael eu ffurfio wrth i’r frenhines gnoi pren! Mae’n bwydo ar fwyd egni uchel fel neithdar, ffrwythau wedi pydru a phicnics melys, ac mae’r rhai bach yn cael eu bwydo ar bryfed bach.

What to look for

Mae gan y wenynen feirch gorff streipiog du a melyn gyda ‘chanol’ amlwg rhwng y thoracs a’r abdomen. Mae ganddi farc ‘angor’ du nodedig ar ei hwyneb. Mae sawl rhywogaeth o wenyn cymdeithasol yn y DU a dim ond oddi wrth patrymau eu hwyneb y gellir gwahaniaethu rhyngddynt – os ydych chi ffansi bod mor agos â hynny atyn nhw!

Where to find

Eang

Roeddech chi yn gwybod?