Amanita’r gwybed
Enw gwyddonol: Amanita muscaria
Y caws llyffant clasurol welwch chi mewn stori dylwyth teg ac mae’r ffwng coch a gwyn yma i'w ganfod yn aml o dan goed bedw yn yr hydref.
Top facts
Stats
Cap diameter: 8-20cmStem height: 8-18cm
Conservation status
Common
Pryd i'w gweld
Awst i DachweddYnghylch
Mae'n debyg mai amanita’r gwybed yw ein rhywogaeth hawsaf ei hadnabod o ffwng, gyda chap coch nodedig a choesyn gwyn y fadarchen yn ymddangos mewn straeon di-ri, ar raglenni teledu a hyd yn oed mewn gemau fideo! Mae amanita’r gwybed i'w ganfod mewn coetiroedd a pharciau ac ar rostiroedd sydd â choed gwasgaredig, gan dyfu yn nodweddiadol o dan goed bedw neu binwydd a sbriws. Mae'r cyrff ffrwytho lliwgar i'w gweld fel rheol rhwng diwedd yr haf a dechrau'r gaeaf.Fel y rhan fwyaf o ffyngau, dim ond y cyrff ffrwytho, neu'r madarch, yw'r rhannau welwn ni. Mae'r rhain yn tyfu o rwydwaith anweledig o ffilamentau bach iawn o'r enw hyffae, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio strwythur o’r enw myseliwm. Mae'r cyrff ffrwytho’n cynhyrchu sborau ar gyfer atgenhedlu, er gall ffyngau atgenhedlu'n anrhywiol hefyd drwy ddarnio. Mae myseliwm amanita’r gwybed yn ffurfio perthynas symbiotig gyda'r coed o'i gwmpas yn aml, gan lapio o amgylch y gwreiddiau a rhoi maethynnau sydd wedi’u tynnu o'r pridd iddynt. Am hynny, mae'r ffwng yn derbyn siwgrau sy’n cael eu cynhyrchu gan y coed.
Mae amanita’r gwybed yn wenwynig ac ni ddylid eu bwyta. Mae’r adroddiadau am farwolaethau yn brin, ond mae eu treulio yn achosi crampiau yn y stumog yn aml, a rhithweledigaethau.