Coch dan adain

Redwing

©Jon Hawkins Surrey Hills Photography

Redwing with hawthorn berry

Redwing feeding on hawthorn berries ©Chris Gomersall/2020VISION

Coch dan adain

+ -
Enw gwyddonol: Turdus iliacus
Ymwelydd gaeaf ydi’r coch dan adain, yn mwynhau'r wledd o aeron tymhorol sydd gan wrychoedd, gerddi a pharciau'r DU i'w cynnig. Chwiliwch am y clytiau oren-goch nodedig o dan ei adenydd.

Top facts

Stats

Hyd: 21cm
Lled yr adenydd: 34cm
Pwysau: 63g
Oes ar gyfartaledd: 2 years

Conservation status

Wedi'i ddosbarthu yn y DU fel Ambr o dan Adar o Bryder Cadwraethol 5: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2021). Wedi'i warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Wedi'i restru fel Agos At Fygythiad ar Restr Goch fyd-eang IUCN o Rywogaethau Dan Fygythiad.

Pryd i'w gweld

Medi i Ebrill

Ynghylch

Bronfraith fechan yw’r coch dan adain sy’n ymweld â’r DU yn y gaeaf i wledda ar lwyni llawn aeron mewn gwrychoedd, perllannau, parciau a gerddi. Mae’r coch dan adain yn mudo yma yn ystod y nos - ar nosweithiau clir gwrandewch am ei gri 'tsee' uwchben. Yn aml, gellir eu gweld mewn heidiau gyda’r socan eira, yn symud o lwyn i lwyn yn chwilio am fwyd. Gall afalau a llwyni sy'n cynhyrchu aeron, fel y ddraenen wen, ddenu’r coch dan adain i'r ardd.

What to look for

Mae'r coch dan adain yn frown tywyll ar y top ac yn wyn oddi tanodd, gyda bron ddu resog a'i ystlysau oren-goch nodedig, ac o dan yr adenydd wrth gwrs. Does dim marciau oren-goch o’r fath ar y fronfraith, sy’n debyg. Mae gan y coch dan adain batrwm wyneb smart iawn, gyda streipen wen ar yr ael a bochau brown tywyll.

Where to find

Ymwelydd gaeaf eang

Roeddech chi yn gwybod?

Mae poblogaeth fechan iawn o’r coch dan adain yn magu yn y DU, ond mae’r rhan fwyaf o’n hadar ni’n dod o Wlad yr Iâ a Sgandinafia yn y gaeaf.

Gwyliwch