Gwennol ddu
Enw gwyddonol: Apus apus
Mae gwenoliaid duon yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau yn hedfan – gan hyd yn oed gysgu, bwyta ac yfed wrth hedfan – gan lanio i nythu yn unig. Maen nhw’n hoffi nythu mewn hen adeiladau mewn tyllau bychain yn y to.
Top facts
Stats
Hyd: 16-17 cmLled yr adenydd: 45 cm
Pwysau: 44 g
Oes ar gyfartaledd: 9 mlynedd
Conservation status
Wedi’i chategoreiddio yn y DU fel Oren o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015).
Pryd i'w gweld
Ebrill - AwstYnghylch
Mae gwenoliaid duon yn treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau yn hedfan yn uchel yn yr awyr, gan lanio i nythu yn unig. Maen nhw’n hawdd eu hadnabod gan eu bod yn edrych fel saeth yn troelli drwy’r awyr, ac yn hedfan mewn grwpiau yn aml. Yn wreiddiol, byddent wedi nythu mewn coed neu ar glogwyni ond nawr mae’n well ganddyn nhw doeau hen adeiladau fel eglwysi. Mae gwenoliaid duon yn treulio’r gaeaf yn Affrica ond yn teithio i Brydain bob blwyddyn ym misoedd Ebrill a Mai.Maen nhw’n gwledda ar bryfed bach yn hedfan drwy eu dal wrth hedfan. Mae’r pryfed yn casglu mewn cod arbennig yng nghefn gwddw’r wennol ddu, lle maen nhw’n cael eu clymu gyda’i gilydd gan boer nes ffurfio peled sy’n cael ei galw yn ‘bolws’. Mae’r bolws yn gallu cael ei boeri allan a’i fwydo i’r cywion. Gall un bolws gynnwys mwy na 300 o bryfed, gyda rhai’n dal mwy na 1,000!