Tylluan frech

Tawny owl

Tawny owl ©Margaret Holland

Tylluan frech

+ -
Enw gwyddonol: Strix aluco
Mae tylluanod brech yn dylluanod brown cyfarwydd yng nghoetiroedd, parciau a gerddi Prydain. Maent yn cael eu hadnabod am eu cân ‘tŵ-wit tŵ-hŵ’ sydd i’w chlywed yn ystod y nos.

Top facts

Stats

Hyd: 37-39 cm
Lled yr adenydd: 99 cm
Pwysau: 420-520 g
Oes ar gyfartaledd: 4 blynedd

Conservation status

Wedi’i chategoreiddio yn y DU fel Oren o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015).

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Ynghylch

Tylluanod brech yw tylluanod mwyaf cyffredin Prydain, i’w gweld mewn coetir, parciau a gerddi. Mae eu cân ‘tŵ-wit tŵ-hŵ’ yn perthyn yn benodol i’r dylluan frech, er ei bod yn cael ei hystyried fel cân gyffredin pob tylluan. Ond nid cri un aderyn yw hon, ond yn hytrach y gwryw a’r fenyw yn galw ar ei gilydd. Y fenyw sy’n gwneud y sŵn ‘tŵ-wit’ ac wedyn mae’r gwryw yn ateb gyda ‘tŵ-hŵ’! Mae’r creaduriaid rhyfeddol yma’n eistedd ar eu hoff glwyd yn chwilio am anifeiliaid bychain fel llygod pengrwn a llygod eraill i’w bwyta. Maen nhw’n nythu yn ystod y gwanwyn mewn coed gwag, neu weithiau’n dewis ailddefnyddio hen nyth bran!

What to look for

Mae’r dylluan frech yn lliw browngoch brith, ond yn oleuach oddi tanodd. Mae ganddi ben mawr, crwn, adenydd crwn, llygaid mawr, tywyll, a chylch tywyll o amgylch ei hwyneb.

Where to find

Eang, ond yn absennol o Ogledd Iwerddon ac Ynys Manaw.

Roeddech chi yn gwybod?

Fel tylluanod eraill, gall y dylluan frech droi ei phen 270 gradd ac mae’n gallu edrych tu ôl iddi. Er bod gan dylluanod olwg fel sbienddrych, nid yw eu llygaid sy’n wynebu ymlaen yn gallu symud yn eu socedi, felly mae’n rhaid iddyn nhw droi eu pen er mwyn gallu gweld.

Gwyliwch

Tawny Owl by Tom Hibbert