Barcud

Red kite on ground

©Margaret Holland

Red kite in flight

©David Tipling/2020VISION

Barcud

+ -
Enw gwyddonol: Milvus milvus
Mae gweld barcud yn hedfan yn uchel yn yr awyr yn bleser pur! Arferai fod yn aderyn prin iawn ond diolch i brosiectau ailgyflwyno llwyddiannus, mae’r aderyn yma i’w weld mewn llawer o lefydd yn y DU erbyn hyn.

Top facts

Stats

Hyd: 58-64 cm
Lled yr adenydd: 1.8 m
Pwysau: 1-1.2 kg
Oes ar gyfartaledd: 4 blynedd

Conservation status

Wedi’i gategoreiddio yn y DU fel Gwyrdd o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015). Wedi’i warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Wedi’i restru fel Agos at Fygythiad ar Restr Goch Fyd-eang yr IUCN o Rywogaethau Dan Fygythiad.

Pryd i'w gweld

Ionawr - Rhagfyr

Ynghylch

Arferai gael ei ystyried fel bygythiad i adar hela ac anifeiliaid anwes fel cathod a chŵn a chafodd y barcud ei hela nes diflannu bron o’r DU. Bellach mae’n rhywogaeth dan warchodaeth – ac wedi sawl ymgais i’w ailgyflwyno, mae nifer y barcutiaid wedi adfer bellach ac mae i’w weld mewn llawer o lefydd ledled y DU. Yn hytrach na dim ond hela am fwyd, mae barcutiaid yn byw ar sbarion yn bennaf, ac yn hoffi bwyta sbarion bwyd ac ysglyfaeth bach fel cwningod. Gwrandewch am ei gri yn ‘mewian’!

What to look for

Mae’r barcud yn aderyn ysglyfaethus mawr gydag adenydd coch, onglog gyda blaen du ac mae ganddo ddarnau gwyn oddi tano, yn y 'llaw'. Mae ganddo gynffon hir, frowngoch, fforchiog.

Where to find

I’w weld mewn sawl rhan o’r DU, gan gynnwys Cymru, De Ddwyrain Lloegr, Sir Efrog a Dwyrain Canolbarth Lloegr.

Roeddech chi yn gwybod?

Arferai’r barcud fod yn gyffredin yn Llundain yn oes Shakespeare, gan fwydo ar sbarion bwyd ar y strydoedd a chasglu cadachau neu ladrata dillad oddi ar leiniau er mwyn creu nyth. Cyfeiriodd Shakespeare at yr arfer hwn yn 'The Winter's Tale' gan ysgrifennu: 'When the kite builds, look to lesser linen'. Mae nyth y barcud yn un flêr iawn, yn cael ei hadeiladu yn aml ar ben hen nyth brân. Mae’n cael ei leinio gyda gwlâd defaid a’i haddurno gyda phob math o wrthrychau, fel papur, plastig a defnydd.

Gwyliwch