Pedryn drycin
Enw gwyddonol: Hydrobates pelagicus
Efallai mai’r pedryn drycin yw aderyn môr lleiaf Prydain, ond mae ei ffordd o fyw drawiadol yn gwneud iawn am ei faint yn sicr! Mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i amser ar y môr, gan ddychwelyd i’r tir i gael cywion yn unig. Mae ganddo gân ryfedd iawn, fel canu grwndi bron – fel cath!
Top facts
Stats
Hyd: 16 cmLled yr adenydd: 38 cm
Pwysau: 27 g
Oes ar gyfartaledd: 11 mlynedd
Conservation status
Wedi’i gategoreiddio yn y DU fel Oren o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015).
Pryd i'w gweld
Ebrill i HydrefYnghylch
Mae’r adar hyn sy’n hoff o’r môr yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser allan ar y môr, gan ddychwelyd i gael cywion pedryn drycin yn unig. Gan eu bod mor fach, mae siawns dda iddynt gael eu bwyta ar y tir – felly maent yn dewis eu nythod yn ofalus, gan fyw ar ynysoedd bychain yn aml, lle nad oes mamaliaid fel llygod mawr a bach, a nythu mewn tyllau yn y ddaear neu dyllau creigiog. Gellir eu clywed yn canu eu cân ryfedd iawn fel grwndi cath yn ystod y nos, gydag ambell wich a rhochiad hefyd! Mae gan yr adar rhyfeddol yma bŵer arbennig: synnwyr arogl eithriadol dda sy’n eu helpu i ddod o hyd i fwyd o bell wrth hedfan allan uwch ben y môr. Wrth lwc, mae pedrynnod drycin yn enwog am eu harogl pleserus, sy’n golygu eu bod yn ffefryn ymhlith gwylwyr adar a gwyddonwyr!What to look for
Aderyn môr bychan ac eiddil, yn fawr ddim mwy na gwennol y bondo, ac mae ei blu yn eithaf tebyg i wennol y bondo hefyd. Mae ganddo adenydd, corff a phen brownddu, gyda thamaid gwyn llydan ar ei ben ôl a chynffon fer, dywyll, blaen sgwâr. Mae band gwyn nodedig o dan bob adain, sy’n helpu i wahanu’r rhywogaeth hon oddi wrth bedrynnod drycin eraill tebyg.O’u gweld yn fanwl, mae gan y pig bychan ‘diwb’ nodedig ar y top, sy’n dangos ei fod yn aelod o’r grŵp o adar môr sy’n cael eu hadnabod fel tiwbdrwynau, sy’n cynnwys albatrosiaid, adar drycin eraill ac aderyn drycin y graig.