Pâl

Puffin

©Tom Marshall

Puffins on cliff

©Mark Hamblin/2020VISION

Puffin on water

©Rob Jordan/2020VISION

Puffin diving underwater

Puffin ©Alex Mustard/2020VISION

Puffin in flight

©Rob Jordan/2020VISION

Pâl

+ -
Enw gwyddonol: Fratercula arctica
Creadur bach doniol yn ei siaced ddu sgleiniog a’i fib gwyn glân. Mae’n hawdd iawn adnabod y pâl oddi wrth ei big llachar fel parot. Mae palod yn defnyddio eu pig lliwgar i ddenu cymar, a chredir mai’r gwryw gyda’i big mwyaf llachar yw’r harddaf!

Top facts

Stats

Hyd: 26-29 cm
Lled yr adenydd: 55 cm
Pwysau: 400 g
Oes ar gyfartaledd: 18 mlynedd

Conservation status

Wedi’i gategoreiddio yn y DU fel Coch o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015). Wedi’i restru fel Agored i Niwed ar Restr Goch Fyd-eang IUCN o Rywogaethau Dan Fygythiad.

Pryd i'w gweld

Mawrth - Awst

Ynghylch

Cyfeirir at y pâl weithiau fel ‘parot y môr’ ac mae posib ei adnabod ar unwaith oddi wrth ei big llachar fel parot. Yn treulio’r gaeaf ar y môr, bob blwyddyn mae miloedd o balod yn dychwelyd i’r DU i nythu yn eu tyllau bychain yn y ddaear. Mae palod yn driw i’w gilydd, gan baru gyda’r un aderyn bob blwyddyn a chael un cyw. Mae’r cyw yma’n cadw ei rieni’n brysur yn pysgota i sicrhau ei fod yn cael digon o fwyd ac yn fodlon. Ei hoff fwyd yw llysywod y tywod ac mae’n eu dal drwy ddeifio a nofio gan ddefnyddio ei adenydd.

What to look for

Mae’r pâl yn ddu uwch ben, gyda bol a bochau gwynion, pig mawr amryliw a thraed oren, gweog.

Where to find

Mae’n nythu ar glogwyni ac ynysoedd mewn lleoliadau ar wasgar o amgylch arfordir yr Alban, gogledd Lloegr, de orllewin Lloegr a Chymru.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae pig llachar y pâl, sy’n rhoi iddo’r enw ‘parot y môr’, yn rhan o’i blu magu ac mae’n colli ei liw yn y gaeaf pan mae ar y môr. Mae’r pig yn ddanheddog er mwyn dal pysgod yn eu lle, gan alluogi iddo ddal mwy nag un pysgodyn ar y tro – mae cofnod am un pâl gydag 83 o lysywod y tywod bach yn ei big ar un tro!