Gwylog

Guillemot

Common guillemots ©Mike Snelle

Bridled Common Guillemot

(Bridled) common guillemot ©Mike Snelle

Guillemot (winter-plumage)

Guillemot (winter-plumage) ©Tom Hibbert

Gwylog

+ -
Enw gwyddonol: Uria aalge
Mae gwylogod yn gwybod yn iawn sut i fyw bywyd ar ymyl y dibyn – yn llythrennol! Maen nhw’n nythu wedi’u gwasgu’n dynn at ei gilydd ar glogwyni a siliau serth o amgylch yr arfordir. Efallai bod hwn yn swnio fel llecyn nythu rhyfedd, ond mae’n eu cadw’n ddiogel rhag ysglyfaethwyr. Wrth lwc, nid oes gan yr adar hyn ofn ychydig o ddeifio oddi ar glogwyni - yn dair wythnos oed, mae cywion gwylogod yn neidio oddi ar y clogwyn i’r môr!

Top facts

Stats

Hyd: 38-45 cm
Lled yr adenydd: 67 cm
Pwysau: 690 g
Oes ar gyfartaledd: 23 mlynedd

Conservation status

Wedi’i gategoreiddio yn y DU fel Oren o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015).

Pryd i'w gweld

Mawrth - Gorffennaf

Ynghylch

Mae’r adar siocled brown hyn yn nythu mewn poblogaethau clos a swnllyd ar siliau serth o amgylch yr arfordir. Mae eu tiriogaeth yn fach iawn, mor fach fel mai dim ond hyd pig o amgylch eu nyth mae’n ymestyn! Mae benyw y gwylog yn dodwy un ŵy y flwyddyn ac unwaith mae’r cywion yn dair wythnos oed, maen nhw’n deifio oddi ar y clogwyn i’r môr gyda’u tad. Bydd y tad yn gofalu am y cyw yn y môr nes ei fod yn ddigon hen i ofalu amdano’i hun. Mae gwylogod yn bwyta pysgod, crancod a molysgiaid, gan ddeifio i lawr i’r môr a defnyddio eu hadenydd i nofio ar ôl eu hysglyfaeth.

What to look for

Mae’r gwylog yn siocled brown uwch ben ac yn wyn oddi tano. Mae siâp ffrwyn ar ei wyneb, gyda chylch gwyn o amgylch y llygaid, sy’n ymestyn fel llinell tuag at y gwddw. Yn ystod y gaeaf, mae gan wylogod wynebau gwynion. Mae llurs, sy’n edrych yn debyg, yn dduach ei liw a gyda phig byrrach a mwy trwchus.

Where to find

Mae’n nythu ar glogwyni arfordirol, yng ngogledd Lloegr a’r Alban yn bennaf. Yn ystod y gaeaf, mae i’w weld oddi ar y lan o amgylch y rhan fwyaf o arfordir y DU.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae wyau gwylogod yn gul iawn ac yn ffurfio pig yn un pen (perffurf neu siâp gellygen). Mae pwrpas y siâp hwn yn destun trafod o hyd ond, un brif ddamcaniaeth yw bod y siâp yn eu gwneud yn fwy sefydlog, gan leihau’r risg y byddant yn rholio oddi ar siliau peryglus y clogwyni lle maent yn cael eu dodwy. Mae’n bur debyg mai tiriogaethau nythu’r gwylogod yw’r rhai lleiaf gan unrhyw aderyn yn y DU, gan ymestyn i hyd pig o amgylch eu nyth yn unig.