
Wyt ti'n barod i ymuno â Thaith Gerdded y Draenogod?
Rhwng 31ain Mawrth a 13eg Ebrill, wyneba’r her i gerdded 3km a chodi arian ar gyfer bywyd gwyllt ar yr un pryd! Mae'n swnio fel taith gerdded hir! Ond oeddet ti'n gwybod bod draenogod yn gallu cerdded hyd at 3km mewn un noson wrth iddyn nhw chwilota am fwyd?
Rydyn ni wedi ymuno â’n ffrindiau ni yn Aardman, felly bydd yn barod i ymuno â dy hoff gymeriadau o Timmy Time ar gyfer yr antur gyffrous yma. Pan fyddi di'n cofrestru ar gyfer Taith Gerdded y Draenogod, nid dim ond yr awyr iach a symud ym myd natur fyddi di'n ei fwynhau – rwyt ti'n helpu i godi arian ar gyfer bywyd gwyllt a gwneud mwy o lefydd i ddraenogod fel Apricot, a moch daear fel Stripey, fyw.
Os byddi di’n cerdded gyda theulu neu fel grŵp, bydd cyfle i ti archwilio ein byd gwyllt ni a helpu byd byd natur y gwanwyn yma!

©2024 Aardman Animations Ltd
Sut byddwch chi a’ch rhai bach yn elwa?
-
• Llawer o daflenni gweithgarwch ac adnoddau Timmy Time y mae posib eu lawrlwytho
• Gwobr i ddweud diolch wrth y codwyr arian campus i’r rhai sy’n codi £30 neu fwy (telerau ac amodau yn berthnasol)
• Y llawenydd o dreulio amser ym myd natur a gwybod eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth MAWR wrth helpu bywyd gwyllt!
I started to learn more about hedgehogs and found out that the number of hedgehogs is going down. One of the reasons is because they can't move around gardens easily because of the fences, after this we put a hole in our fence and I took some leaflets into school to talk about how to make your garden hedgehog friendly. Everyone should love hedgehogs.Age 8
Dewiswch glip a gwyliwch beth mae Timmy a'i ffrindiau yn ei wneud ar eu hanturiaethau awyr agored!
DAWNSIO GYDA TIMMY
Gwyliwch Timmy a'i ffrindiau yn cael symud yn slic wrth iddyn nhw ddysgu symudiadau dawns newydd!
GWYRTH Y GWANWYN
Gwyliwch Timmy a'i ffrindiau yn cael bysedd gwyrdd wrth fod yn brysur yn yr ardd yn plannu hadau.
GWYRTH Y GWANWYN
Mae Timmy a'i ffrindiau yn ailymweld â'r hadau wnaethon nhw eu plannu i ddarganfod beth ydyn nhw nawr ar ôl tyfu!
Picnic
Criw Timmy Time yn mynd ar helfa chwilota!
PICNIC
Mae Timmy a'i ffrindiau yn dysgu pwysigrwydd tacluso ar eu hôl
TUNIAU
Timmy a'i ffrindiau yn brysur yn ailgylchu!
TUNIAU
Bydd criw Timmy Time yn greadigol gydag ychydig o uwchgylchu!
© a TM Aardman Animations 2025. Cedwir pob hawl. Mae 'Timmy Time' (nod gair) a'r cymeriad 'Timmy' yn nodau masnach a ddefnyddir dan drwydded gan Aardman Animations