Beth sydd gan blanhigion, adar a phryfed yn gyffredin? Wel, er bod y bywyd gwyllt yma’n edrych yn wahanol, maen nhw i gyd yn gallu symud yn gyflym iawn!
Hebog tramor
Rhaid i bob rhywogaeth hela fod yn gyflym ond mae cyflymder yr aderyn ysglyfaethus yma wrth iddo deithio i ddal tamaid i’w fwyta’n anhygoel! O uchder mawr, mae’n plymio (dod i lawr ar gyflymder uchel gyda’i adenydd o dan ei gorff) ar ei ysglyfaeth. Wac! Mae’n gallu lladd ysglyfaeth anffodus (colomen fel arfer) ar unwaith! Maen nhw wedi cael eu cofnodi’n teithio ar gyflymder o 200mya wrth blymio – mor gyflym â char rasio formula 1!
Llyffant y gwair
Mae’r pryfed bach yma’n gallu sboncio’n arbennig o dda! Maen nhw’n defnyddio’u coesau ôl cryf i ddianc rhag ysglyfaethwyr. Maen nhw’n gyffredin mewn gerddi, felly chwilia am un a’i gwylio’n llamu. Maen nhw’n creu ‘poeri’r gog’ (yr ewyn sydd i’w weld ar blanhigion) ac mae eu rhai bach yn ei ddefnyddio fel côt warchodol.
Ffromlys chwarennog
Mae hwn yn edrych fel planhigyn cyffredin ac mae i’w weld yn aml wrth afonydd a nentydd. Ond mae’r codau hadau aeddfed yn elastig iawn ac felly gyda dim ond mymryn o gyffyrddiad â dafnau glaw ... Bŵm! Maen nhw’n ffrwydro ac yn anfon yr hadau i bob man.
Larfa gwas y neidr
Mae gweision y neidr ifanc yn byw mewn pyllau ac, fel arfer, maen nhw’n cerdded yn eithaf araf. Ond o gael eu bygwth, maen nhw’n chwistrellu dŵr yn gyflym iawn, iawn allan o diwb yn eu pen ôl o’r enw “seiffon” – gan eu gyrru i ffwrdd i ddiogelwch yn union fel torpedo bach!
Cragen fylchog
Efallai nad ydyn nhw’n edrych yn gyflym ond mae gan y rhain dric i fyny eu llawes os bydd perygl yn bygwth. Maen nhw’n cau eu cragen at ei gilydd yn glep ac mae hynny’n gwneud iddyn nhw godi o wely’r môr a thrwy’r dŵr i ddiogelwch.
Môr-gyllell
Mae’r creaduriaid rhyfedd yma sy’n debyg i octopws fel arfer yn symud y ffril o groen o amgylch eu corff er mwyn symud. Dyma ffordd eithaf araf o symud felly pan maen nhw angen cilio’n gyflym maen nhw’n gallu saethu dŵr allan o diwb ar eu wyneb. Ar yr un pryd, maen nhw’n saethu cwmwl o inc i wyneb y gelyn!
Ffesant
Efallai dy fod di’n meddwl bod yr aderyn trawiadol yma wedi’i gynnwys yma am ei fod yn gallu hedfan, ond na. Ffesantod ydi rhedwyr pluog cyflymaf y du. Maen nhw’n gallu rhedeg ar gyflymder o 40mya wrth ddianc rhag perygl! Mae ffesantod yn dda am sbrintio am fod ganddyn nhw goesau a thraed cryf.