Mae’n amser cynllunio eich anturiaethau gwyllt
Croeso i'r ochr WYLLT! Rydyn ni mor gyffrous eich bod chi'n ymuno å 30 Diwrnod Gwyllt gyda ni ym mis Mehefin ac yn gobeithio y byddwch chi'n mwynhau eich mis gwyllt.
I’ch helpu chi i gwblhau eich her 30 Diwrnod Gwyllt, mae gennym ni lond gwlad o bethau hwyliog i’w gwneud, o adnabod bywyd gwyllt pan fyddwch chi allan, i neidio mewn pwll o ddŵr, ioga bywyd gwyllt a chreu teclyn bwydo adar. Ar gyfer rhai o'r gweithgareddau yma, bydd angen help oedolion, felly beth am ddechrau cynllunio!
Gweithgareddau syml i chi ddechrau arni
Lawrlwytho eich adnoddau digidol
Gweithgareddau syml i chi ddechrau arni
Ddim yn siŵr ble i ddechrau eich antur 30 Diwrnod Gwyllt? Dyma rai awgrymiadau syml i roi cynnig arnyn nhw. Dim ond ychydig funudau maen nhw i gyd yn eu cymryd – ewch amdani!
- Cerdded yn droednoeth ar y glaswellt a chanolbwyntio ar sut mae'r glaswellt yn teimlo o dan eich traed
- Cofleidio coeden
- Gwrando ar gân yr adar
- Arogli blodyn
- Gwylio cacynen yn teithio o flodyn i flodyn
- Bwyta eich brecwast tu allan, gan fwynhau'r awyr iach
- Treulio 5 munud yn gwylio'r cymylau. Allwch chi weld unrhyw siapiau ynddyn nhw?
- Gwneud bioblitz bach yn eich gardd! Faint o bryfed gwahanol allwch chi ddod o hyd iddyn nhw mewn 5 munud?
- Chwilio am liwiau’r enfys ym myd natur
- Plannu hadau sy'n gyfeillgar i bryfed peillio
Lawrlwytho eich adnoddau digidol
30 Diwrnod Gwyllt siart wal - mewn lliw
30 Diwrnod Gwyllt siart wal - graddlwyd
Ilyfryn i oedolion - mewn lliw
Ilyfryn i oedolion - graddlwyd
Taflen liwio ymwybyddiaeth ofalgar
Codi arian i'r Ymddiriedolaethau Natur
Ydych chi’n addysgwr?
Mae gennym ni gyfoeth o gynlluniau gwersi 30 Diwrnod Gwyllt ac adnoddau addysgol eraill ar gael i chi!
Ein themâu wythnosol
I’ch helpu chi i gynllunio eich antur 30 Diwrnod Gwyllt, rydyn ni wedi meddwl am rai themâu wythnosol. Ond os oes gennych chi syniad gwell, does dim rhaid i chi gadw at y rheolau! Fe allwch chi wneud 30 Diwrnod Gwyllt i’ch siwtio chi. Efallai y byddwch chi eisiau gwneud un gweithgaredd y dydd, neu un yr wythnos. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar yr holl themâu neu gadw at un yn unig. Chi sydd i benderfynu (a'ch oedolion, wrth gwrs)!
Cadwch lygad oherwydd byddwn yn ychwanegu tudalennau gwe arbennig i'ch helpu chi i gynllunio eich gweithgareddau wythnosol.
Wythnos un: Helpu bywyd gwyllt lle rydych chi'n byw
Rhoi cychwyn i 30 Diwrnod Gwyllt drwy ddewis gweithgareddau sy'n helpu bywyd gwyllt. Mae gennym ni lawer o syniadau y gallech chi roi cynnig arnyn nhw yr wythnos yma i helpu i wneud gwahaniaeth a chael y teimlad cynnes, braf yna wrth feddwl eich bod chi’n helpu i achub y blaned.
Wythnos dau: Symud fel bywyd gwyllt
Codi allan i fyd natur ac archwilio llefydd newydd, neu roi cynnig ar ymarferion a gweithgareddau sydd wedi'u hysbrydoli gan fywyd gwyllt! Mae symud eich corff tu allan ym myd natur yn llawer o hwyl - beth fyddwch chi'n rhoi cynnig arno?
Wythnos tri: Dysgu am fywyd gwyllt
Yr wythnos yma ewch ati i loywi eich gwybodaeth am fywyd gwyllt a’ch sgiliau adnabod! Beth fyddwch chi'n ei ddysgu? Defnyddiwch ein taflenni adnabod a’n canllawiau natur ni i’ch helpu chi.
Wythnos pedwar: Bod yn greadigol gyda byd natur
Ar gyfer wythnos olaf 30 Diwrnod Gwyllt, beth am ysgrifennu stori natur, gwneud celf natur neu baentio llun bywyd gwyllt!