30 Diwrnod Gwyllt

Amdani 30 Diwrnod Gwyllt

30 Diwrnod Gwyllt: Her natur fwyaf y DU!

Ydych chi'n barod i wynebu her 30 Diwrnod Gwyllt? Rydyn ni'n gwybod y gallwch chi ei chwblhau!

30 Diwrnod Gwyllt yw her flynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur, lle rydyn ni’n gofyn i blant, ac oedolion hefyd, gymryd rhan mewn gweithgareddau gwyllt drwy gydol mis Mehefin. Byddwch yn barod i gofleidio'r awyr agored mewn ffordd gwbl newydd!

O blannu blodau gwyllt ar gyfer gwenyn, i wrando ar gân yr adar, mae yna ffyrdd diddiwedd o dreulio eich mis gwyllt! Os ydych chi’n cwblhau un gweithgaredd y dydd, neu ddau mewn wythnos, fe allwn ni warantu y cewch chi amser gwych yn cysylltu â bywyd gwyllt, gan helpu i achub y blaned ar yr un pryd.

Gofynnwch i’ch rhieni / gwarcheidwaid / athrawon eich cofrestru chi heddiw i dderbyn eich nwyddau AM DDIM yn y post, a derbyn e-byst dyddiol yn llawn ffeithiau rhyfeddol a gweithgareddau hwyliog i’ch helpu chi i gyflawni eich her wyllt.

Cofrestrwch ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt nawr

Barod i gofrestru? Rydyn ni'n gyffrous am eich cael chi’n rhan o’r antur! Dim ond nifer cyfyngedig o nwyddau drwy’r post sydd ar gael, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cofrestru’n gynnar.

Os ydych chi wedi cyrraedd y fan yma ond ddim yn cymryd rhan gyda phlant, cofiwch ddewis yr opsiwn ‘heb blant’ isod i dderbyn adnoddau sy’n fwy addas i chi.

Sut byddwch chi'n cymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt?

 

Rydw i'n cymryd rhan gyda phlant 

Rydw i'n cymryd rhan heb blant  

Mwy am 30 Diwrnod Gwyllt i rieni / gwarcheidwaid / athrawon

Mae 30 Diwrnod Gwyllt yn her sy’n para mis sydd wedi’i chynllunio i ysbrydoli pobl o bob oed i gysylltu â byd natur yn ystod mis Mehefin. O wylio adar yn eich gardd i archwilio gwarchodfa natur leol, mae pob gweithgaredd - mawr neu fach, dyddiol neu wythnosol - yn eich helpu chi i ymgysylltu â byd natur.

Cwestiynau Cyffredin

Pa opsiwn ddylwn i ei ddewis pan fyddaf yn cofrestru a beth sydd wedi'i gynnwys?

Eleni rydyn ni wedi symleiddio’r dewisiadau a chreu gwahaniaethau clir rhwng adnoddau i blant ac oedolion. Ar ôl cynnal arolwg gyda llawer o’r bobl sydd wedi cymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt o’r blaen, fe wnaethon ni wrando ar eich adborth chi a chreu un her 30 Diwrnod Gwyllt sy’n berffaith i’r rhai sy’n cymryd rhan gyda phlant, a fersiwn i ‘oedolion’ i’r rhai sy’n cymryd rhan heb blant.

Mae adnoddau post y plant yn cynnwys dyluniad sy’n addas i blant ac yn cynnwys hadau perlysiau, poster gyda ffeithiau bywyd gwyllt am infertebrata a thaflen adnabod, sticeri a chanllaw i rieni / gwarcheidwaid / athrawon ar sut i fod yn wyllt gyda llawer o syniadau am weithgareddau.

Bydd yr ‘oedolion’ sy’n cymryd rhan heb blant yn derbyn cerdyn cyfarch drwy’r post, a hefyd pecyn o hadau perlysiau a cherdyn post gyda darn i’w dorri oddi arno i’w anfon at ffrind i’w annog i gymryd rhan gyda chi!

Bydd pawb hefyd yn cael mynediad at adnoddau digidol, gan gynnwys:

  • E-byst dyddiol gyda syniadau ac ysbrydoliaeth
  • Canllawiau gweithgarwch
  • Taflenni adnabod
  • Bathodynnau cwblhau wythnosol i'w defnyddio ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol
  • Tystysgrif cwblhau
  • Cynlluniau gwersi (ar gyfer addysgwyr)

Ydi ysgolion, busnesau a chartrefi gofal yn cael cymryd rhan?

Roedd y llynedd yn nodi 10fed pen-blwydd 30 Diwrnod Gwyllt, felly fe wnaethon ni roi amser i siarad gyda’r cyfranogwyr am yr hyn oedden nhw’n ei hoffi am 30 Diwrnod Gwyllt a’r hyn roedden nhw’n meddwl y gellid ei wella. O ganlyniad i'r adborth gawsom ni, fe aethom ati i symleiddio'r opsiynau cofrestru.

Os ydych chi’n cymryd rhan gydag ysgol, grŵp gweithgaredd plant fel Sgowtiaid neu grŵp addysg gartref, dewiswch yr opsiwn ‘cymryd rhan gyda phlant’. Byddwch yn dal i gael mynediad at gynlluniau gwersi 30 Diwrnod Gwyllt pan fyddwch yn cofrestru, ynghyd â'r gyfres lawn o adnoddau digidol.

Os ydych chi’n cymryd rhan gyda chartref gofal neu fusnes, rydyn ni’n argymell dewis yr opsiwn ‘cymryd rhan heb blant’. Byddwch yn cael mynediad i ystod eang o adnoddau digidol a syniadau drwy e-bost, a bydd posib addasu’r rhain i weddu i'ch anghenion.

Byddaf yn cymryd rhan gyda phobl ifanc yn eu harddegau. Pa opsiwn ddylwn i ei ddewis?

Chi sydd i ddewis! Efallai y bydd yr awgrymiadau dylunio a gweithgarwch ar gyfer yr opsiwn ‘oedolion’ yn teimlo’n fwy priodol, yn dibynnu ar oedran eich pobl ifanc yn eu harddegau, felly byddem yn argymell hynny. Fodd bynnag, mae croeso i chi archebu adnoddau'r plant os ydych chi'n teimlo y byddai'r rhain yn fwy priodol i'ch teulu. Cofiwch edrych ar ein holl adnoddau digidol hefyd!

A fydd bathodynnau defnydd ar gael eleni?

Bydd! Bydd y bathodynnau defnydd i’w casglu gan Pawprint Family yn ôl eleni. Gallwch eu harchebu ar eu gwefan.