Mae llwydni llysnafeddog yn RHYFEDD IAWN!
Am flynyddoedd roedden ni’n meddwl mai ffwng oedd o, ond rhywbeth arall ydi o go iawn. Dyma fwy am y peth rhyfedd a rhyfeddol yma...
Llwydni llysnafeddog aml-ben
Er nad oes ganddo ymennydd, mae’r llwydni llysnafeddog ‘aml-ben’ yn grêt am ddatrys posau. Pan mae dau bryd bwyd yn cael ei gynnig iddo, mae’r llwydni llysnafeddog anhygoel yma’n dod o hyd i’r llwybr byrraf rhyngddyn nhw. Os bydd yn cael cynnig mwy na dau opsiwn, mae’n ffurfio rhwydwaith – yn debyg i system danddaearol Llundain – er mwyn gallu symud o gwmpas y gwahanol lecynnau bwydo.
Llwydni llysnafeddog cyfog ci
Wyt ti wedi darganfod stwff gwyn amheus sy’n debyg i gyfog ci yn dy ardd gefn, er nad oes gen ti gi? Wel, fe allai fod yn llwydni llysnafeddog cyfog ci! Mae’n gallu dod i’r golwg ar laswellt dros nos ac mae i’w weld amlaf ym mis Medi. Ar ôl noson, bydd yn troi’n ddu, ac wedyn yn diflannu mewn ychydig ddyddiau, yn enwedig os bydd yn bwrw glaw.
Llwydni llysnafeddog coden fwg ffug neu flodfresych
Oeddet ti’n gwybod bod llwydni llysnafeddog ifanc yn gallu symud o gwmpas yn chwilio am fwyd? Dyma un gwahaniaeth mawr rhyngddo a madarch. Os ei di’n ôl i’r un lle y diwrnod wedyn a’i fod wedi newid siâp, llwydni llysnafeddog ydi o fwy na thebyg.
Llwydni llysnafeddog llaeth y blaidd
Mae’r blobiau bach iawn yma i’w gweld ar bren marw drwy gydol y flwyddyn. Maen nhw’n gallu bod yn wahanol liw, o binc-llwyd i wyrdd-ddu. Os gwnei di roi pric bach mewn un ohonyn nhw, bydd hylif lliw llachar fel past dannedd yn dod allan ohono. Ond paid â rhoi hwn ar dy ddannedd!
Llwydni llysnafeddog wy wedi'i scramblo
Mae metelau tocsig yn gallu bod yn wenwynig ond mae’r llysnafedd wy wedi’i sgramblo’n defnyddio ei bwerau arbennig (y pigment melyn sy’n rhoi ei liw iddo) i wneud y metelau’n ddiniwed. Cofia gadw llygad am y llysnafedd hud yma yn dy ardd dros yr haf ar ôl glaw trwm. Mae wrth ei fodd yn tyfu ar naddion pren sy’n cael eu rhoi o amgylch planhigion.
Llwydni llysnafeddog plisg wyau
Mae llwydni llysnafeddog plisg wyau i’w weld ar frigau ac mewn nodwyddau pinwydd weithiau hyd yn oed ac mae’n gallu edrych fel sypiau bach o rawnwin. Rho ddiwrnod neu ddau i’r llwydni ac fe weli di o ble mae’n cael ei enw. Mae’n FFRWYDRO! Mae hyn yn rhyddhau ei sborau sy’n golygu ei fod yn gallu lluosogi.