Telerau ac Amodau clwtyn a sticeri Taith Gerdded y Draenogod
- Yr hyrwyddwr yw: Yr Ymddiriedolaethau Natur y mae eu swyddfa gofrestredig yn Royal Society of Wildlife Trusts, The Kiln, Mather Rd, Newark NG24 1WT
- Mae'r clwtyn gwnïo neu’r daflen sticeri am ddim ar gael i unrhyw un sy'n codi £30 fel rhan o Daith Gerdded y Draenogod yn y DU, ac eithrio'r rhai sy'n gysylltiedig â'r sefydliad.
- Does dim angen prynu'r clwtyn gwnïo na'r daflen sticeri.
- Drwy godi arian, mae codwyr arian yn nodi eu bod yn cytuno i ymrwymo i'r telerau a’r amodau yma.
- Bydd clytiau gwnïo am ddim yn cael eu hanfon at godwyr arian sy'n cofrestru fel teulu ac yn codi £30 neu fwy drwy'r platfform Enthuse yn unig.
- Bydd taflenni sticeri am ddim yn cael eu hanfon at godwyr arian sy'n cofrestru fel grŵp neu ysgol ac yn codi £30 neu fwy drwy'r platfform Enthuse yn unig
- Dim ond un clwtyn gwnïo neu daflen sticeri fydd yn cael ei hanfon fesul pob tudalen codi arian sy'n derbyn £30 mewn rhoddion.
- Bydd clytiau gwnïo neu daflenni sticeri’n cael eu hanfon i gyfeiriadau yn y Deyrnas Unedig ac ar Ynysoedd Manaw ac Alderney yn unig. Bydd clytiau gwnïo neu daflenni sticeri’n cael eu hanfon i'r cyfeiriad sy'n gysylltiedig â'r dudalen codi arian.
- Bydd clytiau gwnïo neu daflenni sticeri’n cael eu hanfon hyd at 30ain Ebrill 2025. Ni fydd codwyr arian sy'n casglu mwy na £30 ar ôl y dyddiad yma’n derbyn clwtyn gwnïo na thaflen sticeri.
- Does dim posib derbyn unrhyw gyfrifoldeb am glytiau gwnïo neu daflenni sticeri sydd ddim yn cael eu derbyn am ba reswm bynnag.
- Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r hyrwyddiad a’r telerau a’r amodau yma heb rybudd os bydd unrhyw beth y tu allan i’w rheolaeth yn digwydd. Bydd yr hyrwyddwr yn rhoi gwybod i bawb sy’n cymryd rhan am unrhyw newidiadau i'r hyrwyddiad cyn gynted â phosibl.
- Nid yw'r hyrwyddiad yma’n cael ei noddi, ei gymeradwyo na'i weinyddu mewn unrhyw ffordd gan, nac yn gysylltiedig â, Facebook, Twitter nac unrhyw Rwydwaith Cymdeithasol arall. Bydd y wybodaeth sy’n cael ei darparu’n cael ei defnyddio ar y cyd â'r Polisi Preifatrwydd canlynol sydd ar gael yma.
Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau at hello@wildlifetrusts.org