Mae gan bob pysgodyn bron gennau, ond nid pob un! Ac oeddet ti’n gwybod nad ydi pob cen yr un fath?
Beth ydi pwrpas cennau?
I ddechrau, mae cennau’n gwarchod corff meddal y pysgodyn rhag ysglyfaethwyr a bygythiadau eraill yn y môr. Hefyd maen nhw’n helpu pysgod i symud yn llyfn drwy’r dŵr.
Pam am mae rhai cennau'n wahanol?
Mae gwahanol gennau’n cynnig gwahanol fanteision ac anfanteision. Mae gan rai pysgo blatiau arfog cryf sy’n eu gwarchod nhw rhag niwed. Ond mae’r rhain yn ei gwneud yn fwy anodd i symud drwy ddŵr. Dychmyga pe baet ti’n gwisgo llawer o haenau o ddillad – meddylia pa mor anodd fyddai i ti symud.
Mae gan rai pysgod, fel llysywod, gennau mor fach fel bod rhaid cael microsgop i’w gweld nhw! Mae’r pysgod yma’n gallu symud yn gyflym a rhwydd iawn, ond dydyn nhw ddim wedi cael eu gwarchod cystal.
Mae’r pigau sy’n brathu ar gynffon y forgath ddu yn gennau arbennig sydd wedi esblygu gydag amser.
Dannedd neu gennau?
Mae gan rai cennau ymylon llyfn ond mae gan eraill ddannedd mân ar eu hyd! Hefyd mae cennau sy’n ffitio gyda’i gilydd – bydd darn bach o un cen yn ffitio i dwll yn y cen nesaf, fel jig-so.
Yn rhyfeddol, mae rhai pysgod yn gallu cael mwy nag un math o gen ar eu corff! Mae gan bysgod fflat un math o gen ar un ochr i’w corff a math arall ar yr ochr arall. Does gan rai rhywogaethau o forfleiddiaid ddim cennau o gwbl – maen nhw’n anadlu drwy eu croen.
Beth ydi ysgwydau?
Mae ysgwydau’n fath llai cyffredin o gennau. Mae’r rhain yn gennau trwchus iawn a bron fel tarianau! Mae’r gair hefyd yn disgrifio croen crocodeilod a chragen crwbanod môr. Mae gan bysgodyn o’r enw pysgodyn mochyn y coed ysgwydau dros ei gorff i gyd.
Siarcod
Mae gan siarcod fath arbennig iawn o gennau. Yr enw ar y rhain ydi ‘dentriclau’ ac maen nhw’n debyg i ddannedd! Mae’r ffordd mae’r cennau yma wedi cael eu gwneud yn golygu y bydd y cennau’n teimlo’n arw iawn o’u cyffwrdd y ffordd anghywir. Ond pan maen nhw’n nofio drwy ddŵr, mae’r cennau’n gorwedd yn fflat yn erbyn eu corff. Mae hyn yn eu gwneud yn nofwyr cyflym a thawel iawn.