Pryfed yw’r creaduriaid mwyaf llwyddiannus ar wyneb y ddaear. Roedden nhw yma cyn y deinosoriaid a nawr mae mwy nag 800,000 o wahanol rywogaethau ar hyd pob cyfandir!
Bywyd cymhleth
Mae gan bryfed gylch bywyd diddorol iawn, gyda thri neu bedwar cam. Maen nhw’n dodwy wyau sy’n deor yn larfa (fel lindys), a fydd yn bwyta llawer cyn troi’n biwpa (fel cocŵn neu chwiler). Mae’r piwpa yn gweithredu fel cragen sy’n cadw’r pryf yn ddiogel wrth iddo newid tu mewn, gan ddeor fel oedolyn yn y diwedd (fel glöyn byw). Yr enw ar y newid ydi metamorffosis. Mae rhai pryfed yn cael cam nymff yn lle’r larfa a’r piwpa.
Er ei enw, nid dim ond ym mis Mai mae cylionyn Mai yn hedfan! Mae i’w weld drwy’r haf.
Am faint maen nhw’n byw?
Yr ateb syml ydi rhwng oriau a degawdau! Bydd cylionyn Mai yn byw am ddim ond 24 awr fel oedolyn ond mae brenhines y morgrug gwyn yn Affrica yn gallu byw am hyd at 50 mlynedd! Mae’r rhan fwyaf o bryfed yn byw am lai na blwyddyn am mai gwaed oer sydd ganddyn nhw a dydyn nhw ddim yn goroesi’r gaeaf. Mae gan forgrug ddisgwyliad oes gwahanol gan ddibynnu ar eu rôl yn y boblogaeth. Dim ond am wythnos neu ddwy mae’r drôn gwryw yn byw ond bydd y gweithwyr yn byw am hyd at flwyddyn ac mae’r frenhines yn gallu byw am ddegawdau.
Bywydau cudd
Mae rhai pryfed yn gallu byw am amser hir fel nymff fel rhan o’u cylch bywyd, o’r golwg, cyn dod allan fel oedolyn. Mae un rhywogaeth, pryf trofannol yn bennaf o’r enw cicada, yn esiampl eithafol o hyn. Dim ond am fis mae rhai cicadas uwch ben y ddaear ond mae eu nymff yn gallu treulio 17 mlynedd o dan y ddaear yn aeddfedu yn oedolion cyn dod allan i gyd ar unwaith! Yn y DU, mae nymff cylionyn Mai yn cuddio o dan ddŵr am hyd at ddwy flynedd cyn ymddangos fel oedolyn sydd ond yn hedfan am ychydig oriau efallai. Mae gwenyn meirch parasitig yn dodwy wyau mewn pryfed cop hyd yn oed, fel bod y wenynen ifanc yn tyfu tu mewn i’r pryf cop i gyd, a bwyta ei ffordd allan – ych!
Mae rhai lindys yn gallu tyfu 10,000 yn fwy mewn ychydig wythnosau!