Mae gen i archbŵer ac rydw i eisiau ei rannu gyda chi. Rydw i’n gweld patrymau mewn llawer o bethau. Efallai nad ydi hyn yn swnio fel pŵer cŵl gan archarwr, ond mae wir yn rhoi sgiliau clyfar i mi i ddeall sut mae rhywbeth yn tyfu.
Fy enw i ydi Lisa ac rydw i’n gweithredu The Smart Happy Project sy’n rhoi sylw i ddatblygu eich archbŵer i ddod o hyd i batrymau ym myd natur.
Rydw i wedi gweithio’n galed iawn ar ddatblygu’r archbŵer yma ym myd natur. Rydw i’n gallu gweld siapiau mewn blodau, troellau mewn cregyn a hefyd patrymau mewn amser.
Rydw i’n edrych yn fanwl iawn ar bethau, nid dim ond eu gweld nhw, ond eu harsylwi o ddifrif.
Mae rhai patrymau ym myd natur rydw i’n hoffi paentio arnyn nhw fel bod y patrwm yn amlwg iawn wedyn i eraill ei weld. A dyma beth roeddwn i eisiau ei rannu gyda chi heddiw.
Yn y fideo yma, rydw i’n dangos i chi sut i baentio’r patrwm troell yn y mochyn coed. Roedd yr haul allan ac fe ymunodd y cŵn â fi hefyd! Cliciwch ar y botwm chwarae ar y fideo isod i wylio!
Mae fy merch i’n 11 oed (efallai bod hynny yr un oed â ti?) ac mae wedi paentio’r rhain hefo fi yn aml ac rydw i wedi ychwanegu rhai lluniau yma o’r rhai mae hi wedi’u paentio. Ond y tro yma roedd hi eisiau fy helpu i gyda’r camera. Rydw i’n meddwl ei bod hi wedi gwneud gwaith da. Fe wnaeth hi baentio moch coed ar ôl i ni orffen gyda’r fideo hefyd.
Gobeithio y byddi di’n ei fwynhau ac fe fyddwn i wrth fy modd yn gweld dy foch coed di wedi’u paentio hefyd!
Nodiadau i Rieni/Addysgwyr
Mae Phyllotaxis yn air o darddiad Groegaidd sy’n golygu 'trefniant dail'. Mae’n cael ei ddefnyddio i fynegi trefniant sbirol yr hadau sydd i’w gweld fwyaf cyffredin mewn mochyn coed. Mae'r trefniant yma’n cynnwys dau droell gyferbyn â’i gilydd yn troelli. Yn aml, sylwir ar y gydberthynas rhwng nifer y troellau yma i bob cyfeiriad a rhifau Fibonacci. Y rheswm am hyn yw’r gymhareb ddwyfol. Mae'r gymhareb ddwyfol yn ffactor sy'n cyfrannu at y rhifau sy'n ffurfio'r dilyniant Fibonacci ac yn ffactor sy'n cyfrannu at ddyhead planhigion i bob had ddod o hyd i le digonol i ffynnu ynddo.
Mae'r patrwm phyllotaxis yma’n bresennol ym mhob man ym myd natur. Mewn moch coed neu bîn-afal fel y soniwyd, mewn hadau blodau haul, llygad y dydd a mefus neu aeron eraill. Hefyd yn nhyfiant dail o amgylch coesyn talsyth. Am fwy o wybodaeth am phyllotaxis a sut mae'n ymddangos, ewch i https://thesmarthappyproject.com/fibonacci-in-a-sunflower/
Am Lisa Lillywhite
Mae Lisa yn byw yn Iwerddon gyda'i phartner a'u dwy ferch. Dechreuodd The Smart Happy Project i gyflwyno teuluoedd i ryfeddodau siapiau a phatrymau naturiol. Sut mae rhifau'n ymddangos ym myd natur i ni i gyd eu gweld a sut gallwn ni ddeall y rhain drwy grefftau. Mae ei stiwdio’n orlawn o bethau difyr a naturiol mae wedi'u casglu a hefyd ei gwaith adeiladu geometrig. Gan ddilyn yn ôl traed athronwyr a geometrwyr drwy'r oesoedd, mae Lisa'n datgelu ein taith ni fel pobl drwy fyd naturiol sy'n cael ei lywodraethu gan batrymau y gallwn ni eu gweld a'u deall.