Ciwcymbyrs y môr
Maen nhw’n siâp sosej a heb ymennydd, ond dyna’r unig debygrwydd rhwng y rhain â chiwcymbyrs go iawn! Mae’r anifeiliaid rhyfedd yma’n perthyn i sêr môr ac yn gwneud eu cartref ar wely’r môr ym mhob rhan o’r byd, gan gynnwys yma yn y du.

Sea cucumber © Paul Naylor/marinephoto.co.uk
Bwydwyr pluog
Mae rhai ciwcymbyrs y môr yn tyrchu yn y tywod gyda dim ond eu tentaclau pluog yn y golwg, gan ddal darnau mân o fwyd sy’n mynd heibio. Maen nhw’n tynnu eu tentaclau i mewn i’w ceg fesul un ac yn casglu bwyd ohonyn nhw – fel pan rwyt ti’n llyfu dy fysedd. Iym!

Cotton-spinner sea cucumber © Paul Naylor/marinephoto.co.uk
Tyrchwyr tywod
Mae ciwcymbyrs y môr eraill yn crwydro o gwmpas ar resi o draed bach, gan symud drwy’r tywod i chwilio am fwyd. Maen nhw’n glanhau gwely’r môr drwy fwyta darnau bach o blanhigion ac anifeiliaid marw a phŵ – blasus! Mae’r creaduriaid morol yma’n gadael eu pŵ eu hunain ar ôl hefyd, sy’n darparu maethynnau ar gyfer bywyd gwyllt arall y cefnfor, fel cwrelau a glaswellt môr.

Cotton spinner squirting out organs © Paul Naylor / marinephoto.co.uk
Pledwyr perfedd
Mae ciwcymbyrs y môr yn bryd blasus o fwyd i grancod ac anifeiliaid eraill, ond mae ganddyn nhw ffyrdd clyfar o osgoi bod yn ginio i’r creaduriaid yma. Maen nhw’n gallu gwneud eu corff yn galed neu’n feddal – i wasgu drwy fwlch bach neu osod eu hunaun mewn cilfach i guddio! Ac os bydd ysglyfaethwyr yn dod yn rhy agos, mae rhai rhywogaethau’n gallu eu dychryn nhw i ffwrdd drwy chwistrellu eu horganau mewnol allan yn un llanast gludiog! (paid â phoeni – mae ciwcymbyrs y môr yn gallu aildyfu eu horganau mewn ychydig wythnosau. Ffiw!)

Sea cucumber © Paul Naylor/marinephoto.co.uk
Anadlwyr drwy’r pen ôl
Sut wyt ti’n anadlu os nad oes gen ti drwyn? Defnyddio dy ben ôl! Mae ciwcymbyrs y môr yn sugno dŵr i mewn drwy eu pen ôl, yn cymryd yr ocsigen o’r dŵr ac wedyn yn ei boeri allan eto. Mae gan rai mathau bysgod bach yn byw y tu mewn iddyn nhw hyd yn oed, yn nofio i mewn ac allan drwy eu pen ôl!