Chwilen y bwm

Common Cockchafer

Common Cockchafer ©Nick Upton/2020VISION

Chwilen y bwm

+ -
Enw gwyddonol: Melolontha melolontha
Gellir gwełd y chwilod mawr, brown yma’n heidio o amgylch golau stryd yn y gwanwyn. Maen nhw’n byw o dan y ddaear fel larfa am flynyddoedd ac wedyn yn dod allan fel oedolion, mewn niferoedd mawr yn aml. Gwrandewch am eu sŵn suo nodweddiadol.

Top facts

Stats

Hyd: 3.5cm

Conservation status

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Mai - Gorffennaf

Ynghylch

Mae chwilen y bwm yn cael ei hadnabod hefyd fel chwilen Fai gan eu bod yn dod allan fel oedolion yn ystod mis Mai yn aml. Mae’r rhain yn chwilod mawr, brown sy’n treulio eu blynyddoedd cyntaf yn byw fel larfa o dan y ddaear. Gan amlaf, maen nhw’n dod allan ar ôl i’r haul fachlud ac maen nhw i’w gweld yn hedfan o amgylch goleuadau stryd a ffenestri wedi’u goleuo. Os oes gennych chi drap gwyfynod, fe allwch chi weld rhai o’r rhain ynddo, wedi’u denu gan y golau llachar.

What to look for

Chwilen y bwm yw chwilen sgarab fwyaf y DU (mae chwilod sgarab yn cynnwys chwilod tail a chwilod eraill o bob math). Gyda chloriau ei hadenydd yn frown lliw rhwd, ei ‘chynffon’ bigog a’i hantena sy’n debyg i wyntyll, mae’r chwilen yma’n unigryw. Mae’n hedfan yn lletchwith ac yn gwneud sŵn suo.

Where to find

Eang, ond yn brinnach yn y gogledd.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae chwilen y dom yn cael ei hadnabod hefyd fel ‘Chwilen Fai’ gan ei bod yn dod allan o’r ddaear mewn niferoedd mawr yn ystod y gwanwyn.